Ar drefniadau corfforaethol y Bwrdd Iechyd yr oedd prif bwyslais yr asesiad, er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn effeithlon, yn effeithiol ac yn ddarbodus, gyda phwyslais penodol ar dryloywder, cydlyniant ac effeithiolrwydd y Bwrdd, systemau sicrwydd corfforaethol, dull cynllunio corfforaethol, a dull rheoli ariannol corfforaethol. Nid ydym wedi adolygu trefniadau gweithredol y Bwrdd Iechyd yn rhan o’r gwaith hwn.
Yn gyffredinol, canfuom fod gan y Bwrdd Iechyd drefniadau effeithiol ar y cyfan i sicrhau llywodraethu da sydd wedi cryfhau ers ein hadolygiad diwethaf.
Fodd bynnag, mae cyfleoedd i wella’r trefniadau hyn ymhellach ac mae angen pwyslais penodol ar allu’r cyhoedd i gael gafael ar bolisïau, gan ganolbwyntio ar ofal sylfaenol, gwrando ar gleifion a datblygu Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd.