Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Asesiad o'r cynnydd a wnaed yn erbyn ein Cynllun Blynyddol 2024-25 yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2024.
Mae'r Adroddiad Interim hwn yn disgrifio'r cynnydd a wnaed dros y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2024 tuag at gyflawni ein rhaglenni gwaith arfaethedig a'n meysydd ffocws cysylltiedig, ac ar gyflawni ein targedau dangosydd perfformiad allweddol.
Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran darparu rhaglen gynhwysfawr ac effeithiol o waith archwilio. Mae hyn yn cynnwys cwblhau holl archwiliadau cyfrifon y GIG a'r llywodraeth ganolog a chyhoeddi deg allbwn adroddiadau cenedlaethol. Rydym hefyd ar y trywydd iawn i ardystio'r rhan fwyaf o gyfrifon llywodraeth leol 2023-24 a baratowyd ar amser erbyn y dyddiad cau ar 30 Tachwedd.
Mae gennym gynlluniau clir i ddal i fyny â'r ôl-groniad ôl-bandemig a chyflwyno'r amserlenni ar gyfer cyflawni ein gwaith llywodraeth leol a'r GIG.
Mae gwaith ar ein gwefan yn mynd rhagddo fel y gallwn hyrwyddo enghreifftiau o arfer da a chynhyrchu fersiwn fyw o'n rhaglen astudiaethau cenedlaethol.
Rydym hefyd wedi buddsoddi ymhellach yn ein cynlluniau hyfforddi a phrentisiaethau graddedig ac wedi lansio strategaeth gweithlu hirdymor i sicrhau a datblygu ein gweithlu.