Ochr yn ochr â'n datganiadau ariannol ac atebolrwydd, mae'r Adroddiad Blynyddol hwn a'r Cyfrifon yn rhoi crynodeb o'r cynnydd a wnaethom o ran cyflawni'r rhaglenni gwaith archwilio a nodwyd yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2023-24.
Mae ein hadroddiad yn cyflwyno detholiad o astudiaethau achos, sy'n darparu blas o'n gwaith eleni a'r effaith y mae wedi'i chael.
Mae ein gwaith yn hanfodol wrth ddarparu asesiad annibynnol parhaus i'r Senedd, cyrff archwiliedig a'r cyhoedd ehangach o reolaeth ariannol a chydnerthedd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.