Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyfnewidfa Arfer Da: Dull amlasiantaethol o ymdrin â chwympiadau

22 Awst 2024
  • Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Chyngor Sir Powys i gyflwyno dull newydd o reoli cwympiadau mewn cartrefi gofal. Dangosodd canlyniadau cynnar ostyngiad o 25% yn nifer y galwadau i WAST oherwydd cwympiadau.

    Mae ystadegau’n dangos, er y bydd 50% o oedolion dros 80 oed yn cwympo o leiaf unwaith y flwyddyn (National Institute for Health and Care Excellence), mae hyn dair gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd mewn cartrefi gofal. Mewn 45% o achosion, nid yw’r person sydd wedi cwympo yn cael ei anafu (Prifysgol Caerdydd) ond mae’r gwasanaeth ambiwlans yn cael ei alw fel mater o drefn i helpu i godi’r unigolyn. 

    Mae pobl hŷn sy’n cwympo yn cyfrif am fwy nag 80% o’r holl alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans (West Midlands Ambulance Service University NHS Foundation Trust) ac mae amseroedd aros am ambiwlans ar gynnydd. Os na chaiff preswylydd ei anafu, bydd y gwasanaeth ambiwlans yn mynd ati’n briodol i gategoreiddio’r alwad yn un ‘werdd’, a all arwain at oedi hir cyn i barafeddyg gyrraedd. 

    Gall oedi o ran ymadfer arwain at effeithiau iechyd mwy difrifol i’r preswylydd. Mae 20% o gleifion dros 65 oed sy’n cwympo ac sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty wedi bod ar y llawr am awr neu fwy, ac mae ymchwil yn dangos y bydd 50% o’r cleifion hyn yn marw o fewn chwe mis (Vellas et al,1997).

     

    Photo: Matthew Vaughan, Paramedic (Session Facilitator) and Catrin Guest, Project Support Officer, with care home staff in the Health and Care Academy, Bronllys Hospital
    Llun: Matthew Vaughan, Parafeddyg (Hwylusydd y Sesiwn) a Catrin Guest, Swyddog Cymorth Prosiect, gyda staff cartrefi gofal yn yr Academi Iechyd a Gofal, Ysbyty Bronllys

     

    Fel partneriaeth, datblygodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, WAST a Chyngor Sir Powys gynnig a lwyddodd i sicrhau Cyllid Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ychwanegol yn 2022/23. Cafodd sesiynau ymgyfarwyddo eu cyflwyno i staff cartrefi gofal ym Mhowys (dan arweiniad staff WAST – gweler y llun uchod) i leihau nifer yr ymatebion brys sydd eu hangen gan WAST ar gyfer pobl sydd wedi cwympo ond nad ydynt wedi cael eu hanafu.

    Roedd y sesiynau’n cynnwys defnyddio ap I-STUMBLE (i leihau nifer y galwadau i WAST drwy leihau nifer y bobl y mae angen i WAST eu codi o’r llawr, ac i leihau hefyd nifer y bobl yr ystyrir eu bod wedi bod ar y llawr am gyfnod hir yn aros am gymorth ar ôl cwympo ('long lie') ac felly yr eir â hwy’n awtomatig i Adran Achosion Brys). Gan nodi y gall trosiant staff fod yn uchel mewn rhai cartrefi gofal, cafodd sesiwn ymgyfarwyddo gaeedig ei recordio i helpu staff i gofio’r wybodaeth ac i gefnogi staff newydd i ddeall I-STUMBLE. Hefyd, cafodd data ansoddol ei gasglu gan staff cartrefi gofal fel rhan o’r dysgu a deall ar y cyd.

    Yn unol â’r cyllid afreolaidd, mynychodd cyfanswm o 157 o aelodau o staff o 21 o gartrefi gofal sesiynau ymgyfarwyddo cwympiadau ledled Powys yn 2022/23 a chawsant eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio I-STUMBLE a sut i godi preswylydd cartref gofal yn ddiogel gan ddefnyddio clustog Mangar. Roedd yr adborth a gafwyd gan staff cartrefi gofal am y sesiynau ymgyfarwyddo yn gadarnhaol iawn. Yn 2022/23, defnyddiwyd Cyllid y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Argyfwng i helpu i brynu 15 o glustogau Mangar Camel ar gyfer cartrefi gofal a fynegodd ddiddordeb – mae’r clustogau hyn yn caniatáu i staff cartrefi gofal godi preswylwyr o’r llawr mewn rhai amgylchiadau.

    Roedd y canlyniadau cychwynnol yn gadarnhaol: rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Ebrill 2023, dangosodd y data fod WAST wedi mynychu 25% yn llai o achosion o gwympo yn y cartrefi a fynychodd sesiynau ymgyfarwyddo, o gymharu â’r cartrefi gofal hynny nad oeddent yn bresennol. Yn ystod yr un cyfnod, dangosodd data fod y gyfradd trosglwyddo 3% yn uwch ar gyfer cartrefi a fynychodd sesiynau ymgyfarwyddo (60%) o gymharu â chartrefi nad oeddent yn bresennol (57%). Y rhagdybiaeth yw bod y ganran trosglwyddo yn nodi priodoldeb galwadau i wasanaethau 999/WAST; po uchaf yw’r gyfradd trosglwyddo, y mwyaf addas yw’r alwad honno o ran angen ymateb 999 brys.

    O ran arbed costau, nododd y prosiect y canlynol:

    • mae cost mynychu adran achosion brys yn amrywio o £74 i £342 y claf (nodir bod adrannau achosion brys yn wasanaethau a gynhelir ac felly ni fyddai hyn yn rhyddhau arian i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ond byddai’n fuddiol o ran effeithlonrwydd y system).
    • mae cost osgoi derbyniadau yn seiliedig ar £3,000 fesul derbyniad.
    • arbediad o £259 i WAST fesul trosglwyddiad ynghyd â buddion ychwanegol nad ydynt yn rhai ariannol.

    Yn ystod y misoedd ers hynny a chyda’r prosiect yn dod i ben ym mis Mawrth 2023 oherwydd cyllid afreolaidd, mae nifer y galwadau sy’n gysylltiedig â chwympiadau a nifer y trosglwyddiadau wedi dechrau cynyddu eto. Er mwyn darparu dull mwy cynaliadwy, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wrthi’n penodi i dair swydd Ymarferydd Therapi Cynorthwyol Atal Cwympiadau Band 4, wedi’u hariannu’n rhannol drwy’r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Argyfwng, a fydd yn rhoi cefnogaeth barhaus i gartrefi gofal. Mae trafodaethau cychwynnol rhwng WAST a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi awgrymu y dylid targedu gweithwyr gofal cartref fel y garfan nesaf o staff petai cyllid yn cael ei nodi.

    Yn ogystal â’r prosiect uchod, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau partner i adolygu ei lwybr cwympiadau, gyda’r cam cyntaf yn ystyried atal. Mae un man mynediad, gyda chefnogaeth tîm amlbroffesiynol, amlddisgyblaethol yn cael ei sefydlu. Mae ap wedi’i ddatblygu i sicrhau bod modd cynnal asesiad amlffactorol er mwyn nodi pa gamau neu wasanaethau y gall unigolyn elwa arnynt i leihau’r risg o gwympo. Mae Tîm Therapïau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn treialu’r ap, a disgwylir i’r llwybr diwygiedig gael ei gyflwyno’n ehangach ar ddechrau 2024.

    Cyswllt 

    John Morgan

    Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
    John.Morgan3@wales.nhs.uk