Sychodd y glaw wrth i'r cynrychiolwyr gyrraedd ac ymgartrefu cyn cael eu croesawu i'r digwyddiad gan Dr Ian Rees, Cadeirydd ein Pwyllgor Archwilio a Risg ein hunain. Yna, trosglwyddodd yr awenau i Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a roddodd araith yn sôn am y cyd-destun a'r heriau presennol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Cawsom sgwrs ddiddorol wedyn gan Paul Dossett, Pennaeth Llywodraeth Leol Grant Thornton. Bu'n sôn am ei brofiadau yn Lloegr, lle mae'r dirwedd reoleiddiol yn wahanol, a rhannodd rhai enghreifftiau lle mae pethau wedi mynd o chwith – peth ohono’n ddychrynllyd. Roedd yn deimlad da i wybod bod Archwilio Cymru yn ychwanegu diogelwch cadarnhaol yma yng Nghymru.
Yna ein tro ni oedd hi - tro y tîm Ymchwil a Datblygu i gyflwyno sesiwn ryngweithiol gan ddefnyddio dull 'triawdau gwrando' i gael y cynrychiolwyr i gyfnewid eu gwybodaeth a'u profiadau o bwyllgorau archwilio. Aeth y sesiwn yn dda, a chasglwyd llawer o wybodaeth i gyfrannu at ein gwaith ymchwil. Fel bob amser, cynhyrchodd y dull syml o ganiatáu i bobl siarad yn ddi-dor, a chael gwrandawiad gweithredol, deimlad cadarnhaol yn yr ystafell.
Mae Triawdau Gwrando yn ffordd o wrando a dal gwybodaeth gan grwp o dri. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn profi rolau sylwedydd, siaradwr a gwrandäwr yn eu tro. Mae’r Siaradwr yn siarad heb eu tarfu am gyfnod penodol o amser. Mae’r gwrandäwr yn gwrando yn weithredol. Mae’r sylwedydd yn nodi ac yn adrodd yn ôl y prif bwyntiau sydd wedi eu crybwyll gan eu hadrodd yn ôl i’r ddau arall er mwyn eu gwirio. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cyfnewid rolau nes fod pawb wedi cael cyfle i brofi y tair rôl.
