Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyfnewidfa Arfer Da: Natur a Ni

29 Tachwedd 2024
  • Gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru i bobl Cymru sut ddyfodol oeddynt ei eisiau ar gyfer yr amgylchedd naturiol.

    • Mae'r testun sy'n dilyn wedi dod o wefan

      Natur a Ni, ac mae'n disgrifio y broses o ymgysylltu er mwyn creu Natur a Ni.

      Fe wnaeth Natur a Ni gynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am yr amgylchedd naturiol gyda’r nod o ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn 2050, ac ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud cyn hynny.

      Cynhaliwyd y sgwrs mewn tri cham:

      Cam 1

      Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2022, rhoddwyd cyfle i bobl rannu eu barn ar-lein am sut y gallai’r amgylchedd naturiol edrych erbyn 2050. Gallai pobl gwblhau arolwg, cymryd rhan mewn gweminarau neu grwpiau ffocws rhanbarthol. Cynhaliwyd cyfres o weithdai gyda sefydliadau rhanddeiliaid hefyd. Cymerodd dros 3,000 o bobl ran yn y sgwrs genedlaethol. Cafodd eu safbwyntiau eu hadolygu a'u casglu gan ymchwilwyr annibynnol a ffurfio'r sail ar gyfer cam nesaf y sgwrs.

      Darllenwch fwy am ganfyddiadau cam 1

      Cam 2

      Ni lwyddodd Natur a Ni i gyrraedd pawb gyda'r ymgyrch ar-lein. Yn ystod haf a hydref 2022, aethom yn uniongyrchol at gymunedau lleol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ofyn eu barn ac i weld pa ganfyddiadau o gam 1 a oedd yn adlewyrchu barn gwahanol gymunedau yng Nghymru; ble’r oedd cytundeb a ble’r oedd angen rhagor o waith i ddod o hyd i dir cyffredin. Bu iddynt fynd i sioeau teithiol mewn gwyliau a digwyddiadau ledled Cymru gan gynnal grwpiau ffocws gyda phobl ifanc, ffermwyr, mentrau bach a chanolig, a sefydliadau oedd yn gweithio gyda chymunedau ethnig amrywiol.

      Darllenwch fwy am ganfyddiadau cam 2

      Cynulliad y Dinasyddion

      Yn ystod gwanwyn 2023, daeth cynulliad dinasyddion Natur a Ni ynghyd i adolygu canfyddiadau Natur a Ni a gwaith ehangach ac i gytuno ar y weledigaeth ar y cyd. Roedd Cynulliad y Dinasyddion yn cynnwys 50 o unigolion o bob rhan o Gymru, a daethant at ei gilydd mewn tair sesiwn i ystyried dyfodol ble mae cymdeithas a natur yn ffynnu gyda’i gilydd.

      Darllenwch fwy am gynulliad dinasyddion Natur a Ni

       

    • https://www.youtube.com/watch?v=faGKfuzKkAc