Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Sara Leahy a Seth Newman wedi ysgrifennu am ein gwaith ar Anghenion Dysgu Ychwanegol wrth i ni nodi Wythnos Anabledd Dysgu 2025.
Wyt ti’n fy ngweld? yw thema' Wythnos Anabledd Dysgu eleni. Mae'n ddigwyddiad sydd am sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gweld, eu clywed, eu cynnwys a'u gwerthfawrogi ym mhob agwedd o fywyd.
Mae llawer o elusennau a chymunedau yn nodi Wythnos Anabledd Dysgu gan gynnwys, er enghraifft, Mencap. Mae Mencap Cymru yn amcangyfrif bod 70,000 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Dywed Mencap y gall bod angen cymorth ar bobl ag anabledd dysgu i ddatblygu sgiliau newydd, deall gwybodaeth, a rhyngweithio â phobl eraill. Gyda'r gefnogaeth gywir, gall pobl ag anabledd dysgu ffynnu.
Un agwedd ar ddysgu sgiliau newydd i bobl ag anabledd dysgu yw'r ddarpariaeth a'r gefnogaeth o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysgol (Cymru) 2018.
Mae'r Ddeddf yn nodi bod gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddynt anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth dysgu ychwanegol.
Yn Archwilio Cymru rydym yn edrych ar a oes gan gyrff cyhoeddus ddealltwriaeth dda o berfformiad a chynaliadwyedd y system ADY?
Bydd ein gwaith yn edrych ar ddealltwriaeth cyrff cyhoeddus o dueddiadau yn y galw am gymorth ADY. Byddwn hefyd yn ystyried i ba raddau maent yn deall y gost ac a yw'r dulliau presennol o gefnogi dysgwyr ag ADY, gan gynnwys disgyblion ag anableddau dysgu, yn perfformio'n dda ac yn gynaliadwy.
Ein ffocws yw rôl Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol, er y byddwn yn cyffwrdd â materion sy'n berthnasol i'r sector iechyd ac addysg bellach.
Bydd y gwaith yn anelu at gefnogi gwelliant yn y ddarpariaeth ADY trwy dynnu sylw at faterion a gwneud argymhellion.
Rydym wrthi’n casglu tystiolaeth, gan gynnwys clywed gan gyrff cyhoeddus, sefydliadau sy'n cynrychioli dysgwyr, a rhanddeiliaid eraill.
Byddwn yn cadw hyn mewn cof wrth i ni symud trwy'r archwiliad. Mae cael gwybod sut mae'r system ADY yng Nghymru yn teimlo ac yn edrych o safbwynt pobl sy'n derbyn gwasanaethau a chymorth yn rhan hanfodol o'r darlun. Dyna pam rydym yn cynnwys arolygon, edrych ar themâu o waith sefydliadau allweddol, a chyfweliadau â darparwyr a chyrff cynrychioliadol fel rhan o'n dulliau.
Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cyhoeddi ein canfyddiadau tua mis Chwefror 2026.
Ni allwn ymchwilio na thrin ag achosion unigol. Ond os oes gennych farn am y system ADY yng Nghymru neu brofiadau ohoni, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ady@archwilio.cymru
Mae Sara Leahy a Seth Newman yn archwilwyr yn y tîm astudiaethau cenedlaethol yn Archwilio Cymru. Mae Sara a Seth yn rhan o'r tîm sy'n gweithio ar yr archwiliad hwn o Anghenion Dysgu Ychwanegol.