Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Roeddem am ganfod mwy am sut mae ein prentisiaid yn gweld prentisiaeth Archwilio Cymru, felly gwnaethom ofyn ychydig o gwestiynau i'r prentis presennol, Paige.
Pam wnaethoch chi ddewis gwneud prentisiaeth?
Yn bersonol, roeddwn i'n gwybod na fyddai'r brifysgol yn gweddu i mi, tra roeddwn i'n mwynhau bod yn y coleg addysg bellach, roedd yn well gen i'r amgylchedd gwaith i amgylchedd addysgol. Mae gwneud prentisiaeth yn eich galluogi i ennill profiad yn y diwydiant tra'n ennill cymwysterau o hyd, heb ddyledion ariannol gradd.
Sut olwg sydd ar ddiwrnod arferol?
Mae llawer o gyfleoedd i weithio ar wahanol brosiectau yn Archwilio Cymru, felly nid yw'r gwaith byth yn teimlo'n ailadroddus. Rwy'n dechrau fy niwrnod trwy ymateb i e-byst a mynd yn ôl at gleientiaid, yna rwy'n dechrau fy ngwaith archwilio. Trwy gydol y dydd rwy'n teimlo'n hyderus wrth ofyn am gymorth gan fy nghyfoedion gan fod pawb mor gymwynasgar ac ategol yma yn Archwilio Cymru.
Mae cinio yn doriad hyd at awr, yn aml bydd ychydig ohonom yn mynd i'r dref gyda'n gilydd, neu i'r caffi i lawr grisiau.
Ddiwedd y dydd, rwyf bob amser yn nodi’n sydyn yr hyn sydd angen gorffen yn ystod y diwrnod gwaith nesaf: rwy'n gweld bod hyn yn fy helpu i gadw ar y trywydd iawn.
Beth yw eich hoff ran o'r brentisiaeth?
Rwyf yn hoff iawn o'r bobl yn Archwilio Cymru, mae pawb mor gymwynasgar ac ategol, rwy'n teimlo'n hyderus i ofyn am help wrth ddysgu sgiliau newydd. Rwy'n mwynhau'r coleg ac yn darganfod, os ydw i'n cael trafferth, bod prentisiaid yn y garfan uwch fy mhen bob amser yno i helpu hefyd. Fy hoff ran o'r prentisiaeth yw amgylchedd gwaith; mae pawb mor gyfeillgar.
A oes unrhyw beth rydych yn ei chael hi'n anodd am y brentisiaeth?
Yn aml, gallech fod rhwng dau / tri phrosiect gwahanol, a all fod yn anodd eu rheoli, i oresgyn hyn, rwy'n sicrhau fy mod yn cadw fy ffolderi yn drefnus a bod fy e-byst yn gyfredol.
I ddechrau, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd gofyn cwestiynau gan fy mod i wastad wedi cael trafferth yn y maes hwnnw, ond rydw i'n teimlo'n fwy hyderus wrth ofyn am help gan fod pawb o'm cwmpas mor ategol.
Beth fyddai eich un gair o gyngor i'r rhai sy'n ystyried gwneud cais am brentisiaeth?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil i'r sefydliad a'r gwaith a wnawn yma yn Archwilio Cymru, gan y bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r gwaith y byddwch yn ei wneud a'r cymwysterau y byddwch yn eu cyflawni.
Rwyf bob amser yn argymell Archwilio Cymru i'm ffrindiau gan fy mod yn credu ei fod yn sefydliad anhygoel i weithio iddo, felly fy nghyngor gorau yw gwneud cais am y cynllun prentisiaeth a bod yn wir i’ch hun yn ystod y broses gyfweld.
Mae Paige yn mwynhau bod yn weithgar a mynd i'r gampfa, treulio amser gyda'i theulu a mynd ar deithiau cerdded cŵn. Ymunodd ag Archwilio Cymru ar ôl gorffen ei harholiadau Safon Uwch yng Ngholeg Pont-y-cymer. Ar hyn o bryd mae Paige yn Brentis Cyllid blwyddyn gyntaf, ac mae'n mwynhau gweithio yn Archwilio Cymru, mae wrth ei bodd am y cyfle i ennill profiad gwaith tra'n cyflawni ei chymwysterau.