Nid oes dau ddiwrnod fyth yr un fath yn gweithio fel Uwch Archwilydd

Nid oes dau ddiwrnod fyth yr un fath yn gweithio fel Uwch Archwilydd
Llun o Ben yr Uwch Archwilydd

Gwnes i gais yn wreiddiol i Archwilio Cymru gan fy mod yn gweld eu gwaith fel gwasanaeth gwerthfawr i'r gymdeithas, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan ohono. Cwblheais fy nghymhwyster cyfrifeg ar gynllun Archwilio Cymru i hyfforddi graddedigion ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy nyrchafu i fod yn Uwch Archwilydd ddechrau'r flwyddyn.

Roeddwn yn awyddus i barhau â'm taith gydag Archwilio Cymru yn dilyn cwblhau'r cynllun i raddedigion gan fod Archwilio Cymru wedi cynnig amgylchedd ategol i mi lle cefais fy annog a'm herio ers y diwrnod cyntaf.

Cefais gysylltiad archwilio gyda sefydliadau amrywiol ar draws ystod o sectorau, o archwilio'r heddlu i gyrff y GIG, sydd wedi darparu profiad amhrisiadwy wrth hogi fy sgiliau archwilio. Dim ond yn ystod eleni, rwyf wedi gweithio ar draws 5 corff gwahanol, sy'n golygu bod fy ngwaith bob amser yn amrywiol ac rydw i bob amser yn gohebu â chleientiaid newydd. Yr amrywiaeth yma yw un o'r agweddau rwy'n eu gwerthfawrogi fwyaf yn Archwilio Cymru - nid oes dau ddiwrnod fyth yr un fath.

Fel Uwch Archwilydd rwyf hefyd yn gyfrifol am arwain ar gyrff llai sy'n cynnwys datblygu a gweithredu cynllun archwilio, cwrdd yn rheolaidd â chleientiaid i drafod y materion archwilio ac adborth, hyfforddi ac ategu staff iau, adolygu gwaith, a datblygu casgliadau ar gyfer ein hadroddiadau archwilio.

Mae ethos tîm cryf yn Archwilio Cymru sy'n gwneud i mi deimlo fy mod i wedi fy nghynorthwyo ac mae fy nghydweithwyr i gyd yn hynod o gyfeillgar sy'n gwneud dod i mewn i'r gwaith yn y bore yn bleser. Yr wyf yn gwerthfawrogi y  pwyslais ar les yn Archwilio Cymru, ac rwyf yn bles iawn bod Archwilio Cymru yn fy ngalluogi i weithio'n hyblyg.

 

Ynglŷn â'r awdur

Benjamin Hughes, Uwch Archwilydd.