Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Roedd hi'n eithaf anodd i mi ddod o hyd i'r geiriau i ddechrau'r blog hwn ar gam-drin domestig gan fod fy niddordeb i, fel llawer o bobl eraill', yn dod lot o brofiad personol.
Y dyddiau hyn, mae'n ymddangos fel bod yn rhaid i chi fod yn eithaf lwcus i beidio â chael eich stori eich hun i ddweud neu adnabod rhywun sy'n gwneud hynny. Mae'n bwnc heriol ond mae llawer o bŵer i'w gael o siarad am y profiadau hyn yn agored yr ydym yn dechrau gweld mwy a mwy ohonynt. Mae hyn yn sicr yn beth cadarnhaol gan fod yr ystadegau'n [agorir mewn ffenest newydd] dangos maint y broblem yn eithaf llwm:
Mae hon yn sefyllfa bryderus iawn gan fod systemau cyfredol sydd â'r nod o gefnogi goroeswyr yn aml yn dameidiog ac nid oes gan awdurdodau lleol ddarlun clir bob amser ar ble mae'r bylchau, fel y dengys adroddiad Archwilio Cymru o 2019 [agorir mewn ffenest newydd]. Nid yw'r ystadegau hyn yn tynnu oddi ar y ffaith bod dynion hefyd yn profi trais domestig a rhywiol ond mae'n fater sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod.
Mae defnyddio cyllid fel modd o reoli yn thema gyffredin mewn achosion o gam-drin domestig. Mae yna lawer o ffyrdd gwahanol y gall hyn amlygu ei hun ond mae rhai o'r ymddygiadau cyffredin yn cynnwys mynnu bod partner yn cyfrif am bob ceiniog y maent yn ei wario neu eu hatal rhag mynd i'r gwaith. Nid yw'n naid fawr i dybio y bydd yr argyfwng costau byw ond yn cynyddu nifer yr achosion o'r materion hyn sy'n ei gwneud hi'n anoddach i oroeswyr ddianc. Yn anffodus, dyna'n union sy'n digwydd eisoes. Yn ôl Women’s Aid [agorir mewn ffenest newydd], mae 73% o fenywod sy'n profi camdriniaeth wedi darganfod bod yr argyfwng costau byw wedi eu hatal rhag gadael eu cam-drinwyr neu mae wedi gwneud gadael yn anoddach.
Mae'r argyfwng costau byw hefyd yn mynd i gael effaith niweidiol iawn ar wasanaethau sy'n cefnogi goroeswyr, yn enwedig yn y trydydd sector. Mae'r ymchwydd mewn costau ynni sy'n eu hwynebu ond yn mynd i effeithio'n andwyol ar nifer y bobl y gallant helpu. Mae'r gwasanaethau hyn eisoes wedi gorfod delio â phroblemau staffio difrifol yn dilyn pwysau Covid ac mae'n debyg y bydd hynny'n gwaethygu wrth i'r argyfwng costau byw ddechrau brathu'n galetach. Mae llawer o'r swyddi yn y gofod hwn yn cynnig cyflogau sydd heb gadw i fyny â chyfradd chwyddiant ers blynyddoedd lawer.
Roedd yr ystadegau a ddangosodd effaith y pandemig ar achosion o gam-drin domestig yn agoriad llygad a dweud y lleiaf. Mae'n destun pryder mawr meddwl ein bod ni'n debygol o weld sefyllfa debyg yn ystod yr argyfwng costau byw lle mae goroeswyr yn sownd gartref gyda'u cam-drinwyr heb yr adnoddau i ddianc. Mae hyn yn cyfateb i fwy o achosion cam-drin, mwy o alwadau i'r heddlu, mwy o adnoddau sy'n ofynnol gan ddarparwyr gofal iechyd a mwy o bwysau ar awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i gael cefnogaeth. Hyn i gyd ar ben system yn gorfod jyglo'r cynnydd yn y galw gyda'u costau gweithredol cynyddol eu hunain. Yn ei hanfod, mae storm berffaith ar y gweill.
Fel y Cynghorydd Cenedlaethol newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn Llywodraeth Cymru, dyma sylwadau Johanna Robinson, 'ni all fod yn gyfrifoldeb ar un sefydliad i fynd i'r afael â'r broblem – mae dull amlasiantaeth o ddarparu cefnogaeth i oroeswyr yn hanfodol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen dod o hyd i rai o'r atebion hefyd mewn newid meddylfryd. Dylai cadw'r cyfan sydd gennym a'i gynyddu i gwrdd ag anghenion cynyddol bob amser gael ei ystyried yn gyntaf, ond gall yr argyfwng costau byw olygu na fydd gwneud mwy gyda llai yn opsiwn bellach."
Does dim ffordd o siwgr-orchuddio'r ystadegau ynghylch trais yn erbyn menywod ac ni ddylent fod chwaith. Fodd bynnag, mae rhai datblygiadau calonogol sy'n digwydd yng Nghymru sy'n dangos y gall pethau newid. Er enghraifft, De Cymru yw un o'r heddluoedd cyntaf yn y DU i dreialu Ymgyrch Soteria, dull newydd o ymchwilio i achosion o dreisio mewn ymgais i gynyddu ystadegau erlyn truenus ar hyn o bryd.
Fe wnaeth adroddiad Archwilio Cymru 2019 hefyd dynnu sylw at rai enghreifftiau da iawn o waith aml-asiantaethol megis prosiect Siop Un Stop Abertawe sy'n dod â chynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector o dan yr un to. Mae'r system gydlynus hon yn ei gwneud hi'n llawer haws i oroeswyr lywio'r system o gefnogaeth.
Gobeithio eich bod wedi cyrraedd diwedd y post blog hwn heb glicio'r botwm ymadael ar frig y sgrin mewn anobaith!
Yn ogystal â chyrff cyhoeddus fydd angen ystyried yr effeithiau sy'n cael eu trafod, mae 'na bethau all gael eu gwneud ar lefel unigol hefyd...
Efallai ei bod yn ymddangos fel problem amhosib i'w datrys ond mae camau sy'n helpu hyd yn oed un person bob amser yn werth buddsoddi ynddo a gydag adnoddau cyhoeddus yn gostwng, mae'r cyfan yn bwysicach i gamau unigol gael eu cymryd.
Mae Lauren Goulder yn aelod o'r tîm Ymchwil a Datblygu. Ar hyn o bryd mae hi'n cwblhau lleoliad blwyddyn gydag Archwilio Cymru fel rhan o Gynllun Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan. Bydd hi'n dychwelyd i Lywodraeth Cymru yn 2023 i orffen y rhaglen.