Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r blog hwn yn edrych ar rai tueddiadau gwariant hirdymor a'u goblygiadau o ran deall yr ymateb i COVID-19 yng Nghymru a chymharu'r ymateb ledled y DU.
Fy ateb byr, wrth i mi ysu am ymateb fel Yoda, yw: “i ddeall pam ein bod ni lle rydyn ni a ble rydyn ni'n mynd, mae'n rhaid i ni edrych ar o ble rydyn ni wedi dod.” Mae'r athronydd Søren Kierkegaard yn egluro'n well: “Dim ond am yn ôl y gellir deall bywyd; ond rhaid ei fyw am ymlaen.”
Yn aml rydyn ni’n gweld pandemig COVID-19 fel stori o rifau ar un adeg benodol. Achosion dyddiol, cleifion mewn ysbytai, niferoedd sy'n derbyn gofal dwys a marwolaethau. Cyfartaleddau wythnosol yr achosion fesul 100,000. Ac yn awr, ar ochr arall y geiniog, mae'r stori gadarnhaol yn un am y niferoedd dyddiol ac wythnosol o bobl sy'n cael brechiadau.
Y tu ôl i'r niferoedd hynny mae stori'n ymwneud â chapasiti. Capasiti staff: i ddarparu profion, i ofalu am gleifion ac i frechu pobl. Mae'n stori am gapasiti ffisegol hefyd: gwelyau ysbyty, wardiau, corffdai, canolfannau brechu.
Wrth gwrs, dydy stori'r pandemig ddim yn ymwneud â chapasiti'r GIG yn unig. Mae gofal cymdeithasol wedi wynebu baich mwyaf y pandemig, gan ei fod yn gofalu am lawer o'r bobl sydd fwyaf agored i'r feirws.
Mae ysgolion wedi bod ar y rheng flaen hefyd: y cyntaf i agor a'r olaf i gau. Mae ysgolion yn gorfod addasu eu staffio a'u capasiti ffisegol i barhau i ddarparu addysg a darparu ar gyfer plant gweithwyr allweddol tra'n cadw disgyblion a staff yn ddiogel.
Y gwir amdani yn y pen draw yw bod capasiti'n costio arian. Roedd y capasiti a oedd ar waith ar draws y gwasanaethau cyhoeddus pan darodd COVID-19 yn adlewyrchu patrymau penderfyniadau gwario sy'n mynd yn ôl dros amser.
Bu cynnydd sylweddol mewn gwariant yn ystod 2020-21 i gefnogi'r ymateb i'r pandemig. Byddwn yn gwybod mwy am raddfa a natur y gwariant hwnnw pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei thrydedd gyllideb atodol ar gyfer 2020-21.
Fodd bynnag, fel rheol gyffredinol, mae'n anodd cynyddu capasiti staffio a seilwaith ffisegol yn gyflym. Mae'n cymryd blynyddoedd i hyfforddi a datblygu nyrsys, athrawon, meddygon a gweithwyr proffesiynol eraill. Fel arfer, mae adeiladau'n cymryd blynyddoedd i'w hadeiladu. Yn ystod y pandemig, mae'r GIG wedi defnyddio'r seilwaith presennol, rhai yn y sector preifat, i greu ysbytai maes dros dro. Ond prin fod fawr o fudd iddynt os nad oes digon o staff i drin pobl o fewn eu muriau.
Dyna, yn gryno, pam ei bod yn bwysig edrych yn ôl ar ble rydyn ni wedi dod ohono a'r llwybr rydyn ni wedi bod arno; a defnyddio hynny i lywio syniadau am yr hyn y gallai dyfodol gwell a mwy gwydn ei olygu.
Er mwyn helpu i egluro rhywfaint o'r cyd-destun ehangach hwn, rydyn ni wedi diweddaru ein hadnodd data Gwariant Cyhoeddus [yn agor mewn ffenest newydd]. Mae'r adnodd hwnnw'n seiliedig ar set ddata gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n cymharu tueddiadau gwariant yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Pan adroddwyd ar y set ddata hon am y tro cyntaf yn 2019, disgrifiodd yr Archwilydd Cyffredinol rai o'r tueddiadau fel rhai 'diddorol ac annisgwyl efallai’. Pam felly? Wel, er bod ein hadnodd data'n cymharu gwariant ar draws y pedair gwlad, i raddau helaeth, y gymhariaeth â Lloegr sydd o ddiddordeb arbennig.
Pam canolbwyntio ar Loegr? Mae llawer o resymau, a'r mwyaf perthnasol yw bod fformiwla Barnett yn gwneud gwariant yn Lloegr yn feincnod sy'n pennu cyllid ar gyfer gwasanaethau datganoledig.
Mae Cymru yn cael mwy o arian y pen o'r boblogaeth na Lloegr. Ar hyn o bryd mae hynny'n cyfateb i tua £1.20 i'w wario ar wasanaethau datganoledig am bob £1 a werir yn Lloegr ar wasanaethau cyfatebol.
Yr agwedd 'ddiddorol ac annisgwyl efallai' yw nad yw lefelau uwch o gyllid wedi'u paru â lefelau cyfatebol o wariant ar y meysydd mwyaf: iechyd ac addysg. Fel y dengys y siart isod, nid yw gwariant ar iechyd nac addysg o gymharu â Lloegr wedi cyfateb i lefel gymharol y cyllid ar unrhyw adeg dros gyfnod datganoli. Yn gynnar yn y degawd diwethaf, bu bron i wariant ar iechyd y pen o'r boblogaeth gyrraedd yr un lefel â Lloegr, er bod gan Gymru lefelau llawer uwch o angen iechyd. Mae gwariant y pen ar iechyd wedi tyfu'n gyflymach ers hynny.
Ochr arall y geiniog yw bod gwariant yng Nghymru wedi bod yn sylweddol uwch y pen na Lloegr ar wasanaethau heblaw iechyd ac addysg. Er enghraifft, mae gwariant y pen yng Nghymru ar ddatblygu economaidd a diwylliant a hamdden wedi bod yn gyson ac yn sylweddol uwch na Lloegr a'r cyllid cymharol.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhydd i bennu ei blaenoriaethau gwario ei hun dros gyfnod datganoli. Yn wir, dyna holl bwynt datganoli – y gallu i wneud dewisiadau gwahanol i adlewyrchu anghenion lleol.
Fodd bynnag, pan fyddwn yn gwerthuso pa mor dda y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi cyflawni polisïau, rhaglenni a blaenoriaethau, rhaid i ni gofio'r ffaith bod y dewisiadau gwariant mawr hyn yn llywio'r cyd-destun a'r cyfyngiadau ymarferol ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r cyd-destun ehangach hwn yn arbennig o bwysig lle rydyn ni’n ceisio deall a chymharu perfformiad gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU.
Dwi'n falch eich bod chi wedi gofyn. Gallwch weld y tueddiadau hyn yn ein hadnodd data Gwariant Cyhoeddus diwygiedig [yn agor mewn ffenestr newydd]. Rydyn ni’n paratoi adroddiad newydd hefyd yn rhoi Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus a fydd yn ceisio crynhoi rhai o'r materion allweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan edrych ar: gwydnwch cyn y pandemig, ymateb y pandemig a heriau a chyfleoedd allweddol ar gyfer y dyfodol wrth i wasanaethau cyhoeddus geisio gwella yn dilyn y cyfnod hwn o argyfwng.
Mae Mark Jeffs yn Rheolwr Archwilio gyda’r Tîm Astudiaethau Cenedlaethol. Ar hyn o bryd, mae’n rheoli amrywiaeth o astudiaethau gwerth am arian, gan gynnwys rhai ar gyflenwi a chaffael Cyfarpar Diogelu Personol yn ystod pandemig COVID-19, tlodi tanwydd, Brexit a’n gwaith Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus. Mae wedi gweithio i Archwilio Cymru a chyrff rhagflaenol ers 2004.