Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae’r cwbl yn y data…

05 Tachwedd 2020
  • Mae data’n rhan o’n bywydau pob dydd

    • Bob tro yr ydym yn defnyddio cerdyn banc, yn mynd ar siwrne ar fws neu’n rhyngweithio â gwasanaeth cyhoeddus, rydym yn gadael trywydd o ‘olion bysedd digidol’ ar ein holau ar y systemau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu defnyddio.

      Bydd rhywun sy’n cysgu allan yn gadael llawer o olion traed data ar draws y sector cyhoeddus. Ar wahanol adegau a chyda gwahanol wasanaethau – iechyd, gofal cymdeithasol, tai a chyfiawnder troseddol er enghraifft – byddant wedi gwneud eu marc. Nid yw data sydd o bosibl i’w weld fel pe bai’n benodol iawn i broblem o anghenraid yn ddienw ac mae cysylltu gwahanol setiau data’n gallu helpu cyrff cyhoeddus i ddatgloi datrysiadau a oedd yn ymddangos yn amhosibl dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl.

      A dyna pam ein bod yn argymell yn ein hadroddiad [agor mewn ffenestr newydd] bod angen i gyrff cyhoeddus ddefnyddio data mewn ffordd fwy deallus. Mae’r data yno, ond un o’r heriau mawr yw defnyddio’r data i helpu i nodi’n fanwl a deall ble y dylech ymyrryd i atal rhywun rhag diweddu ar y strydoedd. Mae’n bosibl gweld yr holl wasanaethau y mae pobl sy’n cysgu allan wedi dod i gysylltiad â hwy – yn awr mae a wnelo â defnyddio’r data hwn i lywio prosesau integreiddio a chydweithio i gyflawni deilliannau gwell.

      Rhai rhifau:

      • Yn 2019 roedd dros 10,000 o bobl yng Nghymru’n wynebu bygythiad o ddigartrefedd,
      • Mae nifer y bobl sy’n cysgu allan wedi cynyddu 69% ers 2015.
      • Amcangyfrifir bod 28 yn fwy o bobl wedi marw pan oeddent yn cysgu allan yn 2018 nag yn 2014
      • Fe wariodd awdurdodau lleol £29m ar fynd i’r afael â digartrefedd yn 2018-19
      • Cost amcangyfrifedig peidio ag adweithio i sefyllfa pobl yn cysgu allan yw £209m y flwyddyn (gweler ein blog cynharach ar gost gwneud cam â phobl sy’n cysgu allan yng Nghymru [agor mewn ffenestr newydd]).

      Atal ac ymyrryd yn gynnar yw’r allwedd i leihau’r achosion o gysgu allan ac mae defnyddio’r data’n well yn hollbwysig i wneud hyn. Rydym yn cydnabod bod hyn yn uchelgeisiol, ond rydym hefyd yn credu bod modd ei gyflawni.

      Mae angen i gyrff cyhoeddus ddeall pa bobl ifanc sy’n wynebu risg o gysgu allan yn y dyfodol. Mae ein gwaith dadansoddi data ac ymchwil yn dangos bod pobl sy’n diweddu mewn sefyllfa lle maent yn cysgu allan yn rhannu rhai profiadau cyffredin. Mae llawer wedi cael profiadau niweidiol tebyg yn ystod plentyndod, ac yn cario beichiau’r rhain i mewn i’w bywyd fel oedolion. Nid yw pawb yn diweddu ar y strydoedd, ond bydd nifer fawr yn gwneud. Mae defnyddio data i weld ble mae’r risgiau yn eich cymuned yn eich galluogi i ddeall yn well ble y mae angen i chi ganolbwyntio eich ymdrechion atal. Nid pan fo rhywun ar y strydoedd ond pan fo’n cael ei wahardd yn barhaol neu am gyfnod penodol o’r ysgol. Rhaid i gyrff cyhoeddus wella’r modd y maent yn defnyddio data i nodi’n fanwl ble y dylid buddsoddi arian i gael yr effaith fwyaf. Mae gwaharddiadau o ysgolion wedi cynyddu 96% ers 2014-15 – mae hon yn duedd sy’n peri pryder ac yn amlygu’r ffaith ei bod yn debygol o olygu y bydd mwy o bobl yn cysgu allan yn y dyfodol.

      Mae canolbwyntio ar atal a chanfod ble y mae’r bylchau mewn gwasanaethau’n gallu bod yn gostus, ond mae’n werth y gost gan bod cost cysgu allan yn uwch o lawer, yn ariannol ac yn gymdeithasol. Mae ein hofferyn data’n [agor mewn ffenestr newydd] dod â llawer o’r ‘meysydd risg’ hyn ynghyd mewn un lle i weithredu fel adnodd i ddangos ble y mae perygl y bydd yr achosion o gysgu allan yn cynyddu yn y dyfodol. Cynhyrchwyd yr offeryn i helpu awdurdodau lleol a’u partneriaid i ddadansoddi ac ystyried data ar lawr gwlad i helpu i roi arweiniad a gwneud dewisiadau gwybodus.

      Cysylltwch i rannu eich adborth ar yr offeryn trwy gysylltu â ni yn astudiaethau.cyngor@archwilio.cumru