Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Wrth i wasanaethau digidol gyflymu'n sydyn yn ystod y pandemig, efallai y byddai'n werth oedi i fyfyrio ar y ddihareb Affricanaidd; ‘Os ydych chi am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych chi am fynd yn bell, ewch gyda'ch gilydd’.
Wrth i wasanaethau digidol gyflymu'n sydyn yn ystod y pandemig, efallai y byddai'n werth oedi i fyfyrio ar y ddihareb Affricanaidd; ‘Os ydych chi am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych chi am fynd yn bell, ewch gyda'ch gilydd’
Heb amheuaeth mae ehangu digidol ar draws y sector cyhoeddus wedi cyflymu'n sylweddol o ganlyniad i'r pandemig. Mae atebion digidol wedi galluogi pobl a sefydliadau i ymdopi yn ystod y pandemig; efallai ffynnu hyd yn oed. Mae sefydliadau wedi goresgyn rhwystrau'n fewnol ac yn allanol yn gyflym i wneud yr hyn a fyddai wedi cymryd misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i'w weithredu o'r blaen – rhai bron dros nos. Yn amlwg, mae darparu adnoddau a nod cyffredin wedi helpu. Ledled y wlad, rydym wedi gweld digon o enghreifftiau o atebion digidol i helpu i ddarparu gwasanaethau ac i wella cyfathrebu.
‘Mae 'gweithio bwrdd cegin' wedi dod yn norm bron iawn. Defnyddio llwyfannau fel Zoom, Skype a Teams i wneud pethau a fyddai wedi digwydd wyneb yn wyneb fel arfer, o gyfarfodydd trefn reoli aur i reoli'r ymateb i'r feirws, i addysgu a helpu pobl. Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynnal asesiadau mabwysiadu a chyfarfodydd rhithwir gyda darpar ofalwyr maeth, er enghraifft. Bellach derbynnir y gall plant, anifeiliaid anwes, a chlychau drysau dorri ar draws cyfarfodydd; sy’n cyfrannu ychydig o ddigrifwch i'w groesawu i'n hatgoffa ein bod yn ddynol ac nid yn ddigidol yn y pen draw. Mae'n bosib iawn mai ‘Allwch chi ‘nghlywed i?' yw'r ymadrodd dyddiol a ddefnyddir amlaf.
Drwy ein gwaith ar Brosiect Dysgu Covid Archwilio Cymru rydym wedi gweld nifer o enghreifftiau lle mae gwasanaethau cyhoeddus wedi gweithio i sicrhau eu bod yn meddwl ac yn gweithredu i gynnwys cynifer o bobl â phosibl. Yn enwedig y bobl a allai gael eu gadael ar ôl wrth i bethau symud ar-lein neu ddefnyddio fformatau digidol eraill.
Ond mae'r normal newydd yn tybio bod gan bawb y wybodaeth, y wifi, y seilwaith a’r dyfeisiau i elwa arno. Mae perygl amlwg bod ehangu trawsnewid digidol a newid sianeli’n ehangu anghydraddoldeb ac yn gwaethygu allgáu digidol. Mae wedi bod yn dda gweld enghreifftiau o gyrff y sector cyhoeddus yn ceisio mynd i'r afael â hyn, megis Llinell Gyngor Cyngor Caerdydd [agorir mewn ffenestr newydd], sydd ar gael i holl drigolion Caerdydd a staff y Cyngor sydd angen help gyda sgiliau digidol sylfaenol a chael mynediad at wasanaethau. Amlygwyd yr anghydraddoldeb cynyddol o ganlyniad i'r pandemig yn ddiweddar mewn ymchwiliad gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Senedd ac mae ein blog arfaethedig ar gydraddoldeb yn cyffwrdd â rhai o'r materion hyn yn fwy cyffredinol.
Roedd rhai sefydliadau’n gwneud rhywfaint o hyn yn barod beth bynnag, ond yr hyn sydd mor gadarnhaol yw’r dymchwel rhwystrau, rhannu gwybodaeth a gwell cydweithredu er mwyn galluogi'r pethau hyn i ddigwydd mewn gwirionedd. Bydd atebion digidol yn newid ac yn datblygu, ond mae'r ffaith bod sefydliadau'r sector cyhoeddus yn gallu ac wedi gwneud pethau'n gyflym, yn wahanol a gyda'i gilydd yw'r hyn sydd bellach angen ei groesawu a'i ddatblygu ymhellach.
Erbyn hyn mae sefydliadau’n myfyrio ar yr hyn sydd wedi gweithio a'r hyn sydd heb weithio. Mae'n galonogol bod llawer o sefydliadau am adeiladu ar yr hyn sydd wedi gweithio ac nad ydynt am ddychwelyd at y ffordd yr oedd pethau o'r blaen. Maent yn edrych ar atebion mwy cynaliadwy er mwyn gweithredu a darparu gwasanaethau'n fwy effeithiol ac effeithlon; gan gynnwys mynd i'r afael â phroblemau tymor hwy fel newid yn yr hinsawdd. Mae trawsnewid digidol yn elfen allweddol o gynlluniau adfer sy'n dod i'r amlwg. Mae'n debyg y gallech weld 'trawsnewid digidol' yn cael ei grybwyll yng nghynllun corfforaethol pob sefydliad sector cyhoeddus cyn y pandemig, ond yr oedd cynnydd yn anghyson; bellach maent yn gwybod y gallant wneud iddo ddigwydd.
Mae Sam Williams wedi gweithio i Archwilio Cymru ers 2019 ac mae'n rhan o'r Tîm Cyfnewid Arfer Da. Mae hyn yn golygu gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl i nodi a rhannu arferion da er mwyn hwyluso gwelliant mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae gan Sam ddiddordebau penodol yn y meysydd digidol, data, cymhlethdod, gwelliant a dysgu.