Democratiaeth cynghorau lleol – llacio’r cyfyngiadau

Rhoddwyd trefniadau llywodraethu brys ar waith yn gyflym er mwyn ymateb i'r pandemig
O ystyried y sefyllfa ddigynsail a chyflymder lledaeniad y pandemig ym mis Mawrth, roedd yn anochel y byddai angen trefniadau llywodraethu brys.
Er bod deddfwriaeth ar waith cyn y cyfyngiadau a oedd yn caniatáu i gynghorwyr gymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod cyngor ‘o bell’, gan ddefnyddio technoleg, mae’r un ddeddfwriaeth hefyd yn mynnu bod yn rhaid i o leiaf 30% o’r mynychwyr fod yn bresennol yn gorfforol yn y cyfarfod.
Mae'n amlwg nad oedd hyn yn bosibl o dan reolau’r cyfyngiadau, felly gorfodwyd cynghorau i atal eu trefniadau llywodraethu arferol.
Gan amlaf, uwch swyddogion y cyngor fyddai’n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch sut y byddai cynghorau'n defnyddio arian cyhoeddus ac yn darparu gwasanaethau, mewn ymgynghoriad â nifer lawer llai o uwch gynghorwyr nag y byddai fel arfer yn ymwneud â gwneud penderfyniadau – a dim ond arweinydd y cyngor weithiau.
Bu’n rhaid i gynghorau wneud rhai penderfyniadau cyflym ynghylch y ffordd orau o redeg eu gwasanaethau er mwyn amddiffyn unigolion a chymunedau, ac roedd defnyddio pwerau brys yn eu helpu i wneud y penderfyniadau hynny pan oedd amser yn hanfodol.
Mae strwythurau democrataidd yn cael eu hailgyflwyno, ond ar raddfeydd amrywiol
Ar 22 Ebrill, mewn ymateb i’r sefyllfa hon, daeth rheoliadau Llywodraeth Cymru [agor mewn ffenestr newydd] i rym gan alluogi cynghorau a’u pwyllgorau i gyfarfod yn ‘rhithwir’, heb yr angen i 30% o’r mynychwyr fod yn gorfforol bresennol yn yr ystafell gyfarfod.
O ganlyniad, gallai cynghorwyr ailafael yn eu rolau o wneud penderfyniadau a dwyn ei gilydd i gyfrif. Ers hynny, fodd bynnag, mae graddfeydd ailgyflwyno strwythurau democrataidd wedi amrywio ledled Cymru.
Yn Abertawe a Gwynedd, er enghraifft, defnyddiodd y Cabinet dechnoleg i ‘gyfarfod’ cyn diwedd mis Ebrill, lai nag wythnos ar ôl i’r rheoliadau newydd ddod i rym. Erbyn diwedd mis Mehefin, serch hynny, roedd sawl cyngor yn dal heb ailgyflwyno cyfarfodydd Cabinet ac yn parhau i ddibynnu ar bwerau brys i wneud penderfyniadau.
Yn achos rhai o'r cynghorau hynny, nid oes cofnod cynhwysfawr ar gael ar-lein o'r penderfyniadau a wnaethpwyd ers dechrau’r cyfyngiadau. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i'r cyhoedd weld a deall y penderfyniadau a wnaethpwyd gan eu cyngor yn ystod y cyfyngiadau, a phwy sy'n atebol amdanynt.
Mewn llawer o gynghorau, nid yw craffu ffurfiol ar benderfyniadau a gwasanaethau wedi cael ei adfer eto
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau bellach wedi dechrau cynnal cyfarfodydd Cabinet, ond dim ond hanner ohonynt fydd wedi cynnal cyfarfodydd rhithwir o'u pwyllgorau craffu erbyn canol Gorffennaf. Mae craffu effeithiol yn rhan allweddol o wneud penderfyniadau cadarn a thryloyw, ac yn un o bileri hanfodol y broses ddemocrataidd.
Heb graffu, ni ellir adfer atebolrwydd democrataidd yn llawn. Wrth i gynghorau ddechrau cynllunio a gweithredu strategaethau adfer, bydd craffu ar benderfyniadau a darparu gwasanaethau hyd yn oed yn bwysicach.
Er enghraifft, mae'r problemau sy'n wynebu cartrefi gofal wedi bod yn amlwg yn y newyddion, ynghyd â'r heriau sy'n gysylltiedig â chau ac yna ailagor ysgolion yn rhannol. Dim ond rhai o’r materion y gallai aelodau etholedig fod eisiau craffu arnynt yw’r rhain, ac mae’n bosibl eu bod wedi cael llai o gyfle i wneud hynny hyd yma nag y byddent ar adegau ‘arferol’.
Mae cyfleoedd i gynnal y momentwm i wella ‘democratiaeth ddigidol’
Er bod heriau wedi codi, mae llawer o gynghorwyr wedi dangos eu gallu i addasu wrth gofleidio'r defnydd o dechnoleg.
Mae cadeirio cyfarfodydd rhithwir yn gofyn am sgiliau penodol, ond, gyda chefnogaeth eu staff, mae cynghorwyr ledled Cymru wedi dangos y gall cyfarfodydd rhithwir weithio'n dda, gan gynnwys defnyddio cyfieithu ar y pryd.
Mae’n bosibl y bydd cyfarfodydd rhithwir hefyd yn cynnig mwy o fuddion yn y tymor hir, er enghraifft trwy leihau amser teithio cynghorwyr, costau ac effaith amgylcheddol gysylltiedig. Yn ogystal, mae gan we-ddarlledu cyfarfodydd yn fyw y potensial i gynyddu hygyrchedd cyhoeddus ac ymgysylltu â busnes y cyngor.
Wrth edrych ar sut i ailgyflwyno trefniadau democrataidd yn llawn, mae cyfleoedd i gynghorau nawr, a thros amser, ystyried pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol oedd y trefniadau cyn y pandemig ac a yw defnyddio technolegau digidol yn gallu eu gwella.
Am yr awdur
Mae Huw Lloyd Jones wedi bod yn gweithio yn Archwilio Cymru a’i sefydliadau blaenorol ers 2002. Mae bellach yn reolwr yn y tîm Astudiaethau Ymchwiliol a bu’n rheoli’r tîm Llywodraeth Leol yn y Gogledd cyn hynny. Mae ei gefndir o fewn addysg. Amser maith yn ôl, roedd yn athro mathemateg mewn ysgolion uwchradd.