Ymddiried mewn archwilio a rhoi'r ffrwyn i'w botensial

05 Tachwedd 2020
  • Gydag archwilio corfforaethol yn tynnu sylw yn y penawdau am y rhesymau anghywir, mae Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn mynegi ei safbwynt ar gyflwr archwilio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

    Ymddengys bod methiannau corfforaethol a sgandalau cyfrifyddu wedi bod yn bwrw'r tudalennau ariannol yn fwy cyson nag erioed yn y blynyddoedd diwethaf. Prin y gallwch agor papur newydd heb fod straeon am Carillion, BHS, Patisserie Valerie ac eraill yn mynnu sylw.

    Ac un thema sy'n codi dro ar ôl tro yw bod ymddiriedaeth yng nghyfrifon archwiliedig cwmnïau ar ei hisaf erioed. Fel y dywedodd yr AS, Rachel Reeves, yn ddiweddar mewn araith [agorir mewn ffenest newydd] i Bwyllgor Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiannol Senedd y Deyrnas Unedig: “Rydym yn gweld diffyg llwyr yn ymddiriedaeth y cyhoedd a buddsoddwyr yng nghywirdeb cyfrifon cwmnïau.”

    Mae'r Llywodraeth wedi ymateb trwy gomisiynu nifer o adolygiadau proffil uchel, gan gynnwys Adroddiad Kingman 2018 [agorir mewn ffenest newydd] ar y Cyngor Adrodd Ariannol (rheoleiddiwr archwilio a gosodwr safonau y Deyrnas Unedig); adroddiad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd [agorir mewn ffenest newydd] ar farchnad archwilio y sector preifat; ac Adolygiad Brydon [agorir mewn ffenest newydd] a fydd yn edrych ar faint mwy y gellir ei wneud i sicrhau bod archwiliadau yn bodloni disgwyliadau'r cyhoedd, cyfranddalwyr a buddsoddwyr.

    Mae trefniadau o ran archwilio cyhoeddus lleol yn Lloegr hefyd wedi dod o dan sylw

    Yn yr wythnosau diwethaf, mae Adroddiad y Smith Institute 'Spending fairly, Spending well' [agorir mewn ffenest newydd], wedi galw am adolygiad ledled y system o'r modd y mae arian cyhoeddus yn cael ei gynllunio, ei wario a'i fonitro yn Lloegr. Daeth Adroddiad y Smith Institute yn dynn ar sodlau adroddiad gan yr ICAEW [agorir mewn ffenest newydd] a oedd hefyd yn nodi meysydd posibl i'w gwella yn y gyfundrefn archwilio cyhoeddus leol yn Lloegr.

    Felly, beth amdanom ni yng Nghymru?

    A minnau wedi bod yn Archwilydd Cyffredinol Cymru ers chwe mis, fy marn i yw bod archwilio yn y sector cyhoeddus mewn cyflwr da ac, mewn sawl ffordd, mae'n modelu enghraifft i eraill ei dilyn. Gadewch i mi esbonio pam yr wyf yn credu hyn:

     

    Fy nghylch gwaith: fel Archwilydd Cyffredinol, mae gennyf bwerau helaeth i ddilyn y bunt gyhoeddus ledled pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru ac i ddwyn cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyfrif, yn y modd y mae Adroddiad y Smith Institute yn ei argymell ar gyfer Lloegr.

    Archwilio ansawdd cyfrifon: yn Swyddfa Archwilio Cymru, mae gennym gontract â rheolydd allanol – Adran Sicrhau Ansawdd (QAD) yr ICAEW – sy'n adolygu ansawdd ein gwaith archwilio cyfrifon yn flynyddol. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r QAD yn dweud wrthym fod ein gwaith yn gadarn ac o safon dda.

    Ymddiriedaeth: Mae fy sgyrsiau helaeth â Phrif Weithredwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru, a'n harolwg rhanddeiliaid yn 2018, yn dweud wrthyf fod yna ymddiriedaeth sefydlog yn ein gwaith a'i fod yn cael ei werthfawrogi'n gyson. Mae hyn yn dyst i'n hymdrech i feithrin perthnasoedd proffesiynol priodol â'r holl gyrff yr ydym yn eu harchwilio.

    Effaith: Roedd adolygiad a gomisiynwyd gan fy rhagflaenydd, Huw Vaughan Thomas, ar effaith ein gwaith, wedi dod i'r casgliad ei fod o leiaf yn cyd-fynd ag arferion da rhyngwladol ledled sawl maes ac, mewn rhai meysydd, ei fod yn arwain y ffordd.

    Mae hyn i gyd yn bosibl oherwydd y bobl dalentog ac ymroddedig yn Swyddfa Archwilio Cymru, pobl sy'n cefnogi fy ngwaith, ac y mae gennyf ymddiriedaeth fawr ynddynt.

    Er fy mod yn hyderus bod archwilio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru mewn man iach, ni allwn fforddio bod yn hunanfodlon na sefyll yn ein hunfan.

    Felly, rydym eisoes yn ystyried:

    • ffyrdd newydd o wella ein hymgysylltiad â phobl Cymru;
    • technolegau newydd i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein gwaith; a'r
    • modd i sicrhau ein bod yn sefydliad sector cyhoeddus enghreifftiol yn yr 21ain ganrif.

    A rhaid i ni ymdrechu i symud ymlaen ymhellach. Rhaid i ni fynd ati i roi'r ffrwyn yn llawn i'n potensial fel archwilwyr fel y gallwn barhau i fod yn sylwebydd dibynadwy sy'n gallu:

    • sicrhau pobl Cymru fod eu harian yn cael ei reoli'n dda
    • esbonio sut y mae'n cael ei ddefnyddio; ac
    • ysbrydoli a grymuso'r sector cyhoeddus i wella.

    Yn ddiweddar, bu Caroline Gardner, Archwilydd Cyffredinol Audit Scotland, yn blogio ar y pwnc hwn. Gallwch ei ddarllen yma [agorir mewn ffenest newydd].

    Am yr Awdur

    DSC_6056Daeth Adrian Crompton yn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2018. Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd yn goruchwylio gwaith archwilio oddeutu £20 biliwn o arian trethdalwyr ac fe'i penodwyd am dymor o wyth mlynedd.