Data mawr a dadansoddi data yw dyfodol archwilio

05 Tachwedd 2020
  • Ond beth yw Dadansoddi Data? Mae'n ymwneud â defnyddio technoleg fodern i wella’r modd y dadansoddir data. Mae'n ymwneud â bod yn well am gasglu, glanhau, cyfuno, dadansoddi, dehongli a delweddu data.

    Mae Swyddfa Archwilio Cymru mewn sefyllfa unigryw a breintiedig lle mae gennym fynediad at gyfoeth o ddata a ddelir gan gyrff cyhoeddus. Ond rydym angen gwella’r ffordd yr ydym yn casglu ac yn defnyddio’r data hwn, trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, i wella ansawdd ac effeithlonrwydd ein gwaith.

    Gyda chymorth cyllid gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi sefydlu rhaglen Dadansoddi Data a gaiff ei rhedeg gan dîm bach amlddisgyblaethol o ddadansoddwyr data ac archwilwyr.

    Mae wedi bod yn ysgol brofiad a hanner! Mae ein gwaith cynnar wedi golygu dysgu sgiliau’r grefft a chreu offer data syml i ategu ein cyhoeddiadau, megis Effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru.

    Yn ddiweddar fe wnaethom gynnydd tuag at ein huchelgais, sef adroddiadau mwy cyfoes, mewn amser real, pan gyhoeddwyd ein Hofferyn Data Cyllid GIG Cymru ar yr un dydd ag y gosododd GIG Cymru eu cyfrifon ar gyfer 2018-19.

    Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda’n cyd-sefydliadau archwilio yn y DU i rannu gwybodaeth a syniadau wrth i ni droedio’r llwybr ar ein siwrne ddata. Rydym wedi partneru gyda Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon ac Audit Scotland ar yr Her GovTech Catalyst i ddatblygu dull a alluogir gan ddata o archwilio’r sector cyhoeddus.

    Bellach mae ein ffocws yn troi at ein gwaith archwilio ariannol. Rydym yn datblygu gweledigaeth ar gyfer archwilio ariannol a alluogir gan ddata, sy’n cynnwys pedwar cam. Y cam cyntaf, amlyncu data, yw’r un anoddaf ac mae’n gyfrifol am tua 80% o’r ymdrech! Pan fo’r data gennym, yna mae angen i ni ei brosesu fel ei fod mewn fformat sy’n golygu ei fod yn hawdd i’w ddarllen, gan sicrhau ei gyfanrwydd. Nesaf, byddem yn awtomeiddio profion archwilio allweddol, gyda’n harchwilwyr yn gwerthuso’r deilliannau. Yn olaf, bydd delweddu canlyniadau’r dadansoddiad o’r data’n paratoi’r ffordd ar gyfer adrodd ar ein gwaith archwilio mewn modd mwy rhyngweithiol ac effeithiol.

    Felly beth yw manteision Dadansoddi Data? Rydym wedi adnabod pum mantais allweddol, ac rydym yn monitro ein cynnydd yn eu herbyn:

    1. Mwy o hyder yn ein gwaith
    2. Sail dystiolaeth well ar gyfer ein gwaith
    3. Ystod fwy eang o ddulliau a delweddau dadansoddol
    4. Effeithlonrwydd, gwerth ychwanegol
    5. Ein syniadau’n cael eu mabwysiadu gan eraill

    Os ydych am wybod mwy am ein gwaith dadansoddi data, neu os ydych yn meddwl y gallwch rannu rhai o’ch gwersi chi gyda ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â ni yn dadansoddi.data@archwilio.cymru.

     

    Helen-Goddard

    Ynglŷn â’r Awdur

    Mae Helen Goddard yn rheolwr archwilio ariannol yn Swyddfa Archwilio Cymru ac mae'n cyd-arwain y rhaglen dadansoddi data.