Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae yna ychydig wythnosau ers i ni gyhoeddi'r canfyddiadau o'n hastudiaeth llywodraeth leol o'r ‘drws blaen’ i ofal cymdeithasol oedolion. Mae'n teimlo fel amser da i fyfyrio ar yr hyn a wnaethom a'r hyn a wnaethom ei ddarganfod.
Ein nod oedd ystyried pa mor dda y mae cynghorau wedi ymateb i ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Er mwyn gwneud hyn, fe aethom i ymweld â phum cyngor, adolygu dogfennau, asesu gwefannau lleol a chenedlaethol, a chynnal cyfweliadau â sefydliadau cenedlaethol cyhoeddus a thrydydd sector. Yr un mor bwysig â hyn (os nad yn fwy pwysig), fe aethom ati hefyd i siarad â nifer o ddefnyddwyr gwasanaethau – 582 ohonynt a bod yn fanwl gywir – fel rhan o arolwg cenedlaethol o ofalwyr.
Mae'n bwysig nodi mai ‘gofalwyr’ â ‘g’ fach yw hynny – nid teitl swydd ydyw, nid ydynt yn gwisgo iwnifform, a gall fod yn anodd eu hadnabod. Pobl arferol ydynt, sy'n gwneud yr hyn a allant i ofalu am eu hanwyliaid, ac mae yna dros 370,000 ohonynt yng Nghymru – a hebddynt, ni fyddai gwasanaethau cymdeithasol yn gallu ymdopi.
Y canfyddiadau
Roedd yr ymateb yn glir – nid yw'r rhan fwyaf o ofalwyr yn ymwybodol o'u hawl i gael eu hasesu, ac felly nid ydynt yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau.
Fodd bynnag, ar nodyn cadarnhaol, gwelsom newid gwirioneddol yn y ffordd y mae asesiadau yn cael eu cynnal, gydag arddull sgyrsiol, yn gofyn yn hytrach nag yn dweud wrth bobl ‘beth sy'n bwysig iddynt’. Ond, yn dibynnu ar le y mae pobl yn byw yng Nghymru, mae ganddynt brofiad gwahanol o'r wybodaeth, y cyngor a'r cymorth y maent yn eu cael.
Gwneud gwahaniaeth
Yn ystod ein hastudiaeth, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei Gynllun Blynyddol. Gydag Archwilydd Cyffredinol newydd wrth y llyw, aethom ati i fyfyrio ar ein blaenoriaethau corfforaethol ac i wireddu'r uchelgeisiau hirdymor. Roedd trwch methodoleg ein hastudiaeth yn golygu ein bod yn eistedd ar doreth o wybodaeth ac felly, er mwyn manteisio ar ein persbectif a'n harbenigedd unigryw, ynghyd â dyfnder ein mewnwelediad, cynlluniwyd ein cynhyrchion er mwyn “Sicrhau, Egluro ac Ysbrydoli”.
Arweiniodd hyn at gyhoeddi pum cynnyrch gwahanol, pob un wedi'i deilwra ar gyfer cynulleidfa a diben penodol.
Ers cyhoeddi, rydym eisoes wedi helpu rheoleiddwyr ac arolygwyr i gynllunio cwmpas adolygiadau posibl yn y dyfodol er mwyn mynd ar drywydd rhai o'n canfyddiadau. Felly, er i ni gau'r drws ar y prosiect hwn am y tro, rydym yn gobeithio y bydd yr allbynnau’n helpu i gefnogi gwelliant am flynyddoedd i ddod.
Rydym yn bendant wedi dysgu llawer yn sgil y prosiect hwn, ac mae gennym bob amser ddiddordeb mewn clywed barn pobl am ein dull. Os oes gennych unrhyw adborth ar y modd y gallem wella ein hallbynnau, neu ar ba nodweddion o'r offeryn data yw'r mwyaf defnyddiol yn eich barn chi, cysylltwch â ni.
Am yr awduron
Mae awduron y blog, Matt Brushett ac Euros Lake, yn Uwch Archwilwyr yn nhîm astudiaethau llywodraeth leol Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Matt wedi gweithio yn y Swyddfa Archwilio ers chwe blynedd gan weithio mewn amryw o swyddi archwilio perfformiad, gan gynnwys gweithio o fewn astudiaethau iechyd a llywodraeth ganolog cyn ymuno â’r tîm llywodraeth leol yn 2018. Mae Euros hefyd wedi gweithio i’r Swyddfa Archwilio ers chwe blynedd yn gweithio mewn amryw o swyddi gan gynnwys cyfathrebu a pholisi iaith Gymraeg cyn ymuno â’r tîm archwilio perfformiad llywodraeth leol yn 2017. Mae’r ddau ohonynt yn hoff o baned o de.