Archwiliad Cymru yn wahanol i’r duedd

05 Tachwedd 2020
  • Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf yn Public Finance.

    Mae Cymru wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ganddi system archwilio y gellir dibynnu arni ac sy’n dal i ddatblygu, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton.

    Mae cael ffydd mewn cyrff cyhoeddus yn gofyn am archwiliad cyhoeddus effeithiol. Mae gan Gymru system archwilio y gellir cael ffydd ynddi ac sy’n dal i ddatblygu, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton

    Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf gwelwyd lefelau anarferol o feirniadaeth o archwilio corfforaethol, a arweiniodd at arolygiadau gan Kingman, CMA a Brydon. Yn gynharach eleni cyhoeddodd y Llywodraeth hefyd arolwg gan Syr Tony Redmond o effeithiolrwydd adroddiadau ariannol a’r drefn archwilio yn Lloegr.

    Mae cael ffydd mewn cyrff cyhoeddus mewn system ddemocrataidd yn gofyn am batrwm archwilio cyhoeddus effeithiol a chryf. Ac mae atebolrwydd democrataidd yn rhywbeth rwyf yn teimlo’n gryf iawn amdano, fel yr esboniais mewn araith a roddais yn ddiweddar yn Senedd Cymru.

    Prin flwyddyn sydd ers i fi ddod yn Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac rwyf wedi bod yn ystyried rhai o gryfderau’r patrwm archwilio cyhoeddus sydd gennym yng Nghymru a sut mae angen inni ddatblygu hwnnw ymhellach.

    Fel sy’n cael ei osod allan yn y Cynllun Blynyddol rwyf yn ei gyhoeddi ar y cyd â Swyddfa Archwilio Cymru, fy nghylch gwaith yw:

    • sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda;
    • esbonio sut caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio i ateb gofynion pobl; ac
    • ysbrydoli a galluogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.

    Caf fy mhenodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines i wasanaethu am gyfnod penodol o wyth mlynedd. O ganlyniad rwyf yn hollol annibynnol ar y llywodraeth, a gallaf gyflwyno adroddiadau heb ofn na ffafr am amrywiaeth o fethiannau mewn llywodraethiant a materion rheolaeth ariannol.

     

    Byddaf yn cyhoeddi Cod Ymarfer Archwilio sy’n gosod allan sut dylai fy archwiliadau gael eu cynnal. Mae’r Cod yn sefydlu gofyniad sylfaenol i fi, a’m harchwilwyr, weithio er lles y cyhoedd a bod yn hollol annibynnol.

     

    Gyda chyfuno’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru yn 2005  cafwyd patrwm archwilio unedig yn cwmpasu llywodraeth ganolog ddatganoledig, llywodraeth leol a’r GIG. Mae gennyf hefyd bwerau helaeth i ddilyn y bunt gyhoeddus ar draws pob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac i ddarparu sylwadau eang, fel y gwnaf, er enghraifft, yn Tueddiadau o ran Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru rhwng 1990 i 2017-18.

    Fel archwilwyr mae angen inni wneud mwy na dim ond chwilio am feiau. Mae gennym bersbectif, arbenigedd a mewnwelediad unigryw a dylem ddefnyddio’r rheiny i helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella. Mae ein Cyfnewidfa Arfer Da yn adnodd lle gallwn rannu gwybodaeth a syniadau drwy gynnal digwyddiadau am ddim i rannu dysgu, webinarau a phodlediadau. Ymhlith y digwyddiadau i ddod mae pynciau amrywiol a phwysig fel atebolrwydd a llywodraethiant mewn gwasanaethau partneriaeth, profiadau andwyol mewn plentyndod a thrais yn erbyn menywod.

    Gan adeiladu o sail gref, rwyf yn bwriadu gwneud mwy i sicrhau bod fy ngwaith yn dal yn berthnasol ac yn gyfleus ac yn helpu cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i wella.

    Yn Swyddfa Archwilio Cymru rydyn ni ar ganol prosiect tair blynedd i edrych ar y ffordd y gallwn ddefnyddio a dadansoddi data i fireinio ein craffu a gwella ein mewnwelediad, gan hefyd archwilio sut y gallwn wneud ein dadansoddi a’n darganfyddiadau yn fwy gweladwy, cyfleus a haws eu deall.

    Gall ein gwasanaethau cyhoeddus wella dim ond os byddwn yn deall yn iawn brofiadau’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny ac yn dibynnu arnynt.  Felly, rwyf yn rhoi pwyslais cynyddol ar farn a safbwyntiau’r bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau, gan gynnwys grwpiau ‘sy’n fwy anodd eu cyrraedd’, wrth gynllunio a chyflawni fy ngwaith. Er enghraifft, rydym ar ganol astudiaeth i weld sut mae cyrff cyhoeddus - cynghorau, yr heddlu, byrddau iechyd ac eraill - gyda’i gilydd yn gweithio i fynd i’r afael ag anghenion pobl sy’n cysgu ar y stryd.  Rhan hanfodol o’n gwaith yw ymwneud â phobl sy’n byw ar y stryd i edrych ble mae gwasanaethau cyhoeddus wedi methu â bodloni eu hanghenion gan gyfrannu at y ffaith eu bod yn byw ar y stryd am gyfnodau maith, a’r gost i’r pwrs cyhoeddus o ganlyniad i hynny.

    Wrth i batrymau darparu fynd yn fwy cymhleth, byddaf hefyd yn edrych yn fanylach ar effeithiolrwydd trefniadau ar gyfer darparu integredig a chydweithredol.

    Mae’n sylfaenol bwysig i’r darganfyddiadau yn fy adroddiadau gael eu hatgyfnerthu gan dystiolaeth briodol a dadansoddi grymus. Er mwyn rhoi sicrwydd i fi fod hyn yn digwydd, rwyf hefyd yn gwneud arolwg o ansawdd trefniadau sy’n cefnogi fy ngwaith, sy’n archwilio arfer da drwy’r proffesiwn i gyd.

    Rwy’n credu bod archwilio’r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi’i seilio ar batrwm eang a chadarn, a hwnnw’n cael ei atgyfnerthu gan annibyniaeth statudol fy swydd a gweithlu dawnus ac ymroddedig.  Fy ymrwymiad i bobl Cymru yw defnyddio’r llwyfan hwnnw i ddarparu sicrwydd archwilio a sylwadau i gael hyder ynddynt am y materion sydd bwysicaf ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Am yr awdur

    DSC_6056Daeth Adrian Crompton yn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2018. Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd yn goruchwylio gwaith archwilio oddeutu £20 biliwn o arian trethdalwyr ac fe’i penodwyd am dymor o wyth mlynedd.