Aelodau'r Bwrdd

Richard Thurston

Example image

Mae Richard yn eiriolwr cryf dros rôl tystiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a thros ddemocrateiddio tystiolaeth i lywio effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithas sifil, a dealltwriaeth dinasyddion ohonynt.

Yn 2020 dyfarnwyd MBE i Richard am wasanaethau i ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol. Dyma benllanw 30 mlynedd yn ymgymryd â gwaith ymchwil gymhwysol o ansawdd uchel a’i ddatblygu, gyda’r nod o wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ei ymchwil academaidd wedi cynnwys astudiaethau o wrywdod a throsedd yn ogystal â rhoi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar waith yn y Gwasanaeth Prawf.

Yn 2006 cafodd ei ethol yn Llywydd Cymdeithas Gwerthuso’r DU, a sefydlodd Evaluation Cymru a changen Cymru y Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol. Gwasanaethodd Richard ar Banel Addysg Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 (asesu ansawdd ac effaith ymchwil addysgol ledled y DU).

O 2000 fe weithiodd yn Llywodraeth Cymru, yn benodol yn cynllunio astudiaethau a chanllawiau i werthuso polisïau a rhaglenni unigryw Cymru, ac yn arwain ar ddadansoddi’r Adolygiad o Wariant cyntaf yng Nghymru. Roedd Richard yn Ddirprwy Brif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru am ddeng mlynedd, gan arwain ar ymchwil ar draws meysydd polisi datganoledig a chyflwyno dulliau a threfniadau llywodraethu newydd i sicrhau bod ymchwil wrth wraidd llunio polisïau Cymru.

Erbyn hyn, mae’n gweithio’n llawrydd gan roi cymorth i sefydliadau feithrin eu gallu ar gyfer polisi ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae’n Arloeswr Preswyl yn Sbarc, Parc Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Mae Richard yn rhiant balch i dair merch ac un wyres, ac o bryd i’w gilydd mae’n chwarae trombôn yng Ngherddorfa Symffoni’r Rhondda a Wonderbrass (“band jazz mwyaf, mwyaf beiddgar a mwyaf ffynci Cymru”, BBC Cymru).