Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd wedi nodi diffygion sylweddol, hirsefydlog mewn trefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â'r ffordd yr ymdriniodd Cyngor Sir Blaenau Gwent â'i gwmni gwastraff ei hun, Silent Valley Waste Services Limited.

    Nododd yr archwiliad nifer o bryderon sylweddol ynghylch digonolrwydd trefniadau'r Cyngor a chanfu fod y Cyngor wedi methu â:

    • cymeradwyo trefniadau cyflog a phensiwn yn gywir mewn perthynas â swyddogion y Cyngor a benodir i Fwrdd Silent Valley;
    • cydymffurfio â rheoliadau caffael mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan Silent Valley;
    • sicrhau bod penodiadau'r Cyngor i Fwrdd Silent Valley yn cydymffurfio â chyfansoddiad y Cyngor;
    • sefydlu trefniadau llywodraethu a goruchwylio priodol mewn perthynas â Silent Valley o 2012 ymlaen i sicrhau atebolrwydd am ddefnyddio adnoddau cyhoeddus;
    • sefydlu trefniadau priodol i reoli gwrthdaro buddiannau posibl mewn perthynas â swyddogion y Cyngor a benodwyd i Fwrdd Silent Valley gan arwain at y swyddogion hynny'n agored i honiadau bod rhai o'u gweithredoedd wedi'u hysgogi gan hunan-les;
    • sicrhau bod penderfyniadau i wneud taliadau terfynu i gyfarwyddwyr Silent Valley yn unol â'r gyfraith a dogfen lywodraethol Silent Valley; a
    • sefydlu trefniadau cystadleuol a chadarn ar gyfer recriwtio Rheolwr Cyffredinol newydd Silent Valley, (uwch swyddog y Cwmni) yn 2016.
    ,
    Mae Cyngor Sir Blaenau Gwent wedi cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r diffygion yn ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â Silent Valley. Fodd bynnag, mae angen i'r Cyngor sicrhau nad yw'r diwylliant a gyfrannodd at y diffygion a ganfuwyd gan yr archwiliad yn parhau mwyach.
    ,

    Mae yna wersi pwysig y gall pob cyngor eu dysgu o'r methiannau a nodir yn yr adroddiad. 

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Diffygion hirsefydlog wedi’u canfod yn nhrefniadau llywodraethu a goruchwylio’r Cyngor mewn perthynas â chwmni gwastraff y mae’r cyngor yn berchen arno

    View more
CAPTCHA