-
Ymchwilydd (Datblygu a Chanllaw Archwilio)£32,311 - £38,324Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.Cymru
Ynglŷn â'r swydd hon
Allwch chi sganio'r gorwel, cynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel a gweithio gyda chydweithwyr i drawsnewid ymchwil i'r byd go iawn?
A oes gennych chi brofiad o symud ymchwil i ymarfer archwilio?
Os yw hyn i gyd yn wir amdanoch chi, yna efallai mai ein swydd newydd a chyffrous fel Ymchwilydd yw'r un i chi.
Chwilio am gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn mewn gwasanaethau cyhoeddus? Mae ein swyddogaeth Ymchwil a Datblygu newydd sbon yn chwilio am rywun sydd â sgiliau ymchwil a gweithredu. Rydym ni eisiau llywio ein gweithgareddau archwilio yn y dyfodol fel eu bod yn rhoi sicrwydd, yn egluro'n glir y sefyllfa gyhoeddus ac yn ysbrydoli gwelliant yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Mae darparu cyswllt clir rhwng y materion mawr sy'n wynebu cymdeithas a'n rhaglenni a'n harferion archwilio yn rhan allweddol o gyflawni ein nodau. A allech chi fod yn rhan o'r tîm sy'n helpu i gyflawni'r nod hwn?
Gweithio i ni
Mae Archwilio Cymru yn lle hwyliog a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn angerddol am weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol. Yn Archwilio Cymru, mae ein pobl yn wirioneddol bwysig i ni ac rydym eisiau darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn gyflogwr Teuluoedd sy'n Gweithio ac yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Mae ein lwfans gwyliau blynyddol hael, polisïau gweithio hyblyg ac sy'n ystyriol o deuluoedd yn rhai o'r rhesymau pam mae Archwilio Cymru yn lle gwych i weithio ynddo.
Rydym hefyd yn eiriolwyr dros ddatblygiad personol a phroffesiynol, a dyna pam rydym yn cynnig digonedd o gyfleoedd dysgu a datblygu, ac yn darparu trwyddedau LinkedIn Learning i'r holl staff.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y byddant yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
I wybod mwy
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y disgrifiad swydd. Am drafodaeth anffurfiol am y cyfle newydd cyffrous hwn, cysylltwch â Chris Bolton ar 029 2032 0662.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 24 Ebrill 2022.
Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – pan fyddwch wedi gwneud hyn byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch a’r Adran Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500.