-
Prentis Cyllid£24,656- £29,440 (band cyflog FAA)Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.Cymru
Ynglŷn â'r swydd hon
Mae'r swydd wag hon bellach wedi cau
Mwy am y swydd
Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Neu a ydych chi'n gweithio ym maes cyllid ac yn chwilio am lwybr datblygu proffesiynol? Os oes gennych ddiddordeb mewn ennill a dysgu drwy lwybr prentisiaeth uwch. Yna efallai mai’r Rhaglen Prentisiaeth Cyllid yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag yn ein timau De a Gorllewin Cymru.
Mae Archwilio Cymru wrth ei fodd yn cynnig rhaglen tymor penodol o 2-3 blynedd sydd wedi ei hanelu at unigolion sydd am ddilyn gyrfa ym maes cyllid. Byddwch yn gweithio gydag Archwilio Cymru tra’n cwblhau hyfforddiant proffesiynol gyda'r Gymdeithas Technegwyr Cyfrifeg (AAT). Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n angerddol am y sector cyhoeddus; y gallu i ddilyn y broses, bod yn hapus i weithio fel rhan o dîm ond hefyd meddu ar ddisgyblaeth gref a chymhelliant i weithredu o fewn amgylchedd gwaith hybrid. Mae synnwyr da o fenter a sgiliau cyfathrebu rhagorol hefyd yn allweddol. Mae'n rhaid i chi feddu ar neu fod yn debygol o gyflawni tair Safon Uwch ar C neu uwch.
Byddwch yn cymryd rhan yn yr archwiliad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan sicrhau bod y gwaith a wnewch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy!
Mae llawer yn ein tîm yn ifanc ac yn frwdfrydig am wneud gwahaniaeth ac ar hyn o bryd maent yn gweithio tuag at gymwysterau cyfrifyddu proffesiynol. Rydym yn awyddus i'ch ategu a'ch hyfforddi drwy ein rhaglen brentisiaethau sy'n darparu llwybr i'n cynllun i raddedigion.
Pwy yw Archwilio Cymru
Ni yw'r corff sy'n archwilio'r sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru; ein swyddogaeth unigryw yw sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac i ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella. Mae ein gwaith yn cael effaith go iawn ar gymunedau lleol; mae rhai o'n gwaith cenedlaethol diweddar wedi edrych ar dlodi tanwydd, COVID-19, digartrefedd a newid yn yr hinsawdd.
Gweithio i ni
Mae Archwilio Cymru yn lle hwyliog a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Mae gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol yn hollbwysig inni. Yn Archwilio Cymru, rydym heb os yn gofalu am ein pobl ac yn darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn gyflogwr balch o ran Teuluoedd sy'n Gweithio ac mae gennym achrediad Cyflog Byw, mae ein lwfans gwyliau blynyddol hael, polisïau gweithio sy'n ystyriol o deuluoedd a hyblyg yn rhai o'r rhesymau pam ein bod yn lle gwych i weithio.
Rydym hefyd yn eiriolwyr dros ddatblygiad personol a phroffesiynol, a dyna pam rydym yn cynnig digonedd o gyfleoedd dysgu a datblygu, yn ogystal â darparu trwyddedau Dysgu LinkedIn i'r holl staff.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y byddant yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 9 Mehefin 2024 ac rydym yn bwriadu cynnal asesiadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 24 Mehefin 2024. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais a chymhwyster ar ein gwefan ac yn y disgrifiad swydd.