Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Prosiect 100 o Storïau

11 Gorffennaf 2024
  • Yn ôl ym mis Mehefin, roeddwn i yn y Digwyddiad Dathlu 100 o Storïau ym Mhrifysgol Wrecsam. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddysgu am y prosiect a chlywed gan y rhai a oedd wedi bod yn rhan ohono.  A minnau’n Gog, mae hi wastad yn wych clywed am y gwaith sy’n digwydd ar draws cymunedau yng Ngogledd Cymru.

    Pan gyrhaeddais yn y brifysgol, roedd yr oriel wedi’i haddurno â llyfrau storïau a chelfwaith, yn darlunio storïau, meddyliau a theimladau unigolion. Roeddwn yn teimlo braint fawr i gael y cyfle i brofi hyn a dysgu am brofiadau bywyd pobl, yr oedd rhai ohonynt yn eithriadol o bersonol a chynhyrfiol.

    Mae’r gair ‘ysbrydoledig’ yn gallu cael ei orddefnyddio weithiau – ond mae’r digwyddiad hwn, a’r bobl sy’n rhan o’r prosiect, yn wirioneddol ysbrydoledig. Ni allaf ond canmol y dewrder a gymerodd heb os i godi llais a rhannu storïau mor bersonol. Ond mae rhannu naratifau gwahanol a gonest mor bwysig os oes arnom wir eisiau ysgogi’r newid y mae ei angen.

    Rydych chi mwy na thebyg yn meddwl tybed â beth mae a wnelo’r Prosiect 100 o Storïau..

    Dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chenhadaeth Ddinesig Prifysgol Wrecsam, mae’r Prosiect 100 o Storïau yn rhoi cyfle i ddatblygu dealltwriaeth fanwl am y systemau cymhleth y mae’n rhaid i bobl ifanc ymgodymu â hwy wrth bontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Y nod oedd coladu 100 o storïau a naratifau ar draws y system i ddylanwadu ar gamau gweithredu trwy greu prawf cymdeithasol a defnyddio cydgynhyrchu i gydweithio gyda phob lefel o’r system dros amser, gan gyflawni newid mewn ymddygiad. Bydd y mewnwelediad hwn, a geir trwy ddeall profiadau gweithwyr proffesiynol, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, yn galluogi penderfynwyr i gael dealltwriaeth lawn am yr heriau yn y maes hwn a chefnogi camau gweithredu parhaus i wneud y newidiadau y mae eu hangen trwy gydgynhyrchu a datblygu cylchoedd dysgu am systemau.

    Mae gan y prosiect ffocws ar y lleisiau nad ydym yn eu clywed, yn arbennig lleisiau pobl ifanc ac oedolion ifainc â chyflwr niwroddatblygiadol a/neu anabledd dysgu.

    Y darlun yng Ngogledd Cymru

    Mae poblogaeth y plant a phobl ifanc ag anabledd yn cynyddu yng Ngogledd Cymru, ac mae hyn yn cynyddu niferoedd y plant y bydd angen iddynt bontio yn y dyfodol. Mae poblogaeth y rhai ag anableddau dysgu cymedrol neu ddifrifol ar y cyfan yn cynyddu yng Ngogledd Cymru hefyd, sy’n cael effaith ar y tebygolrwydd o gymorth parhaus i mewn i wasanaethau oedolion.

    Mae amseroedd aros hwy ar gyfer gwasanaethau’n effeithio ar yr oedran pan fo pobl ifanc yn cael eu hasesu gan wasanaethau niwroddatblygiadol, gan arwain at ddiagnosis hwyrach. Mae hyn yn effeithio ar ddatblygiad prosesau pontio yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Ceir cydberthynas bosibl hefyd rhwng amseroedd aros hwy a gwaethygiad mewn anghenion, a all arwain at yr angen am gymorth mwy dwys neu fod y cymorth yn parhau wedi iddynt droi’n oedolion.

    Dull y prosiect

    Cafodd y Prosiect 100 o Storïau ei ddatblygu ar y cyd dros 2 flynedd, gan weithio gyda phartneriaid a sefydliadau lluosog i ystyried methodoleg ddiogel ac effeithiol sydd â sylfaen gref o dystiolaeth a mesurau diogelu ac ystyriaethau moesegol.

    Mae’r dull yn cynnwys:

    • Mapio gwasanaethau a chasglu data
    • Hyfforddi ac uwchsgilio cyfranogwyr mewn Technegau ‘Naratif Cyhoeddus’
    • Coladu storïau trwy adrodd storïau mewn grwpiau
    • Cwblhau ‘Ymholiad Cymunedol’ ar gyfer dealltwriaeth fanylach
    • Cwblhau ‘Damcaniaeth Newid’ gyda grwpiau ac arweinwyr ar draws y system
    • Cefnogi datblygiad cynlluniau strategol i weithredu ‘cylchoedd dysgu’
    • Gwerthuso’r effaith dros amser trwy Fodel y ‘Newid Mwyaf Arwyddocaol’

    Digwyddiad Dathlu Prosiect 100 Stori. Prif siaradwyr yn sefyll wrth darllenfa gyda phobl yn gwrando ac yn gwenu.

    Canfu gwersi allweddol o’r Ymholiad Cymunedol fel a ganlyn…

    • Mae Pobl Ifanc yn profi bwlch rhwng gwasanaethau plant ac oedolion, a cheir gwahaniaeth sylweddol ym meini prawf cymhwystra ac argaeledd y ddarpariaeth.
    • Mae amseroedd aros yn effeithio ar ddeilliannau iechyd, cymdeithasol ac economaidd pobl ifanc, gan gyfyngu ar gyfleoedd i ffynnu fel oedolion.
    • Mae gweithwyr proffesiynol yn pryderu ac yn aml yn teimlo’n ddiymadferth i newid y system.
    • Mae rhieni a gofalwyr yn aml wedi’u hynysu oddi wrth y broses bontio ac yn ei chael hi’n anodd ymgodymu â’r system gymhleth, sydd wedyn yn effeithio ar gydnerthedd y teulu.
    • Mae addysg, bwlio ac agweddau cymdeithasol yn effeithio ar bobl ifanc ac yn gallu sbarduno anghydraddoldeb sy’n arwain at ddeilliannau gwaeth wrth iddynt ddod yn oedolion.
    • Mae oedolion ifainc yn gorfod rheoli rhwystrau ar draws y system ac yn profi anghydraddoldeb.

    Beth mae angen iddo newid?

    • Mae angen datblygu dull teulu cyfan yn ystod y broses bontio.
    • Arlwy gyson rhwng gwasanaethau oedolion a phlant, gyda meini prawf cyson.
    • Mwy o gysondeb a gwybodaeth a chyfathrebu clir ynghylch mynediad at wasanaethau a llwybrau gwasanaethau.
    • Mwy o ffocws ar gydweithio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion a gwasanaethau a gyllidir ar y cyd/cyllidebau a rennir.
    • Mwy o gyfleoedd i gysylltu â phlant, oedolion ifainc a theuluoedd, i’w galluogi i fod â mwy o lais yn y ffordd y darperir gwasanaethau.
    • Mwy o ffocws ar anghenion unigol a llai o ffocws ar ddisgwyliad o ddiagnosis mewn addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
    • Gweithio gyda sectorau lluosog a chymdeithas i ddeall niwroamrywiaeth ac anabledd dysgu, gan herio canfyddiadau/agweddau i agor mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ffynnu’n gymdeithasol, yn economaidd ac yn iach.
    • Mwy o ffocws cenedlaethol. Mae angen arweinyddiaeth a chyllid i ddileu rhwystrau i weithwyr proffesiynol.

    Casgliadau Allweddol

    Llwyddiant mwyaf y prosiect yw manylder a chynnwys y storïau a goladwyd, sydd wedi ei gwneud yn bosibl arwahanu themâu sy’n codi dro ar ôl tro a gallu’r prosiect i gyfleu heriau trwy gyfrwng arall y tu hwnt i ddulliau adrodd traddodiadol.

    Mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl hwyluso camau gweithredu ystyrlon, gan adeiladu o’r ymateb dynol naturiol i wrando ar brofiad dynol go iawn trwy gyfrwng adrodd storïau.

    Mae’r storïau wedi mynd y tu hwnt i’r bwriad gwreiddiol, sef deall y profiad o bontio o safbwyntiau lluosog ac yn wir maent wedi amlygu cymhlethdodau cydgysylltiol niferus y system ehangach sy’n effeithio ar ddeilliannau pobl ifanc wrth iddynt ddod yn oedolion. Mae hwn yn ffactor arwyddocaol, gan ei fod yn creu cyfleoedd pellach ar gyfer dysgu ar draws systemau, a fydd yn ategu uchelgeisiau’r prosiect i greu systemau o gydgynhyrchu i gefnogi cylchoedd dysgu pellach a strategaethau ag arbenigedd ar draws systemau.

    Os hoffech chi wybod mwy am y Prosiect 100 o Storïau a’r effaith y mae’n ei chael, anfonwch neges e-bost i arfer.da@archwilio.cymru ac fe allwn ni eich cyflwyno i dîm y prosiect.

     

    Ynglŷn â’r awdur

    Bethan Smith yw’r Rheolwr Rhaglen ar gyfer Tîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Mae Bethan wedi bod yn gweithio i Archwilio Cymru am dros 12 mlynedd. Cyn hyn, bu Bethan yn gweithio mewn nifer o rolau ar draws yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol mewn awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru .