Ein Strategaeth 2022-27

Ein diben

  • Rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda
  • Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl
  • Ysbrydoli a grymuso sector cyhoeddus Cymru i wella.

Mae ein diben wrth wraidd popeth a wnawn yn Archwilio Cymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd y ffordd yr ydym yn cyflawni hyn yn esblygu i adlewyrchu'r heriau sylweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus heddiw.  

Ein gweledigaeth strategol

Ein gweledigaeth yw i Archwilio Cymru gynyddu ein heffaith drwy:

  • Fanteisio'n llawn ar ein persbectif, ein harbenigedd a'n dyfnder mewnwelediad unigryw
  • Cryfhau ein sefyllfa fel llais awdurdodol, dibynadwy ac annibynnol 
  • Cynyddu ein gwelededd, ein dylanwad a'n perthnasedd
  • Bod yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt

Heriau a chyfleoedd

Ar ôl cyfnod hir o lymder ac effaith economaidd a chymdeithasol pandemig Covid-19, ni fydd y blynyddoedd nesaf yn cynnig fawr o seibiant ar gyfer cyllid cyhoeddus estynedig. 

Mae llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw – anghydraddoldeb, iechyd y cyhoedd a'r argyfwng hinsawdd – yn gymhleth ac yn gydgysylltiedig a bydd ein ffocws archwilio yn esblygu i adlewyrchu hyn. 

Caiff ein rhaglen waith ei llunio gan dri thueddiad a nodwyd yn ein dadansoddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus:

Byd sy'n newid

  • newid yn yr hinsawdd: sicrhau pontio teg a chyfiawr
  • cydraddoldebau: ymateb i'r galw am gymdeithas decach a mwy cyfartal
  • cyfansoddiad: rheoli cyfleoedd a risgiau perthnasoedd newydd o fewn y DU

Y pandemig

  • costau uniongyrchol ymateb
  • ergyd economaidd yn taro ar gyllid cyhoeddus
  • costau etifeddol effeithiau hirdymor

Trawsnewid y modd y darperir gwasanaethau

  • systemau a diwylliant i gefnogi dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau.
  • cydweithio pwrpasol.
  • cynllunio ac atal tymor hir
  • defnyddio technoleg lle bo'n briodol
  • defnyddio data i ddysgu ar draws y system gyfan

Sylfeini

Rydym wedi nodi tri maes lle byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu i gyflawni ein huchelgeisiau, ochr yn ochr â chyflawni ein cyfrifoldebau statudol craidd.

  • rhaglen archwilio strategol, ddeinamig ac o ansawdd uchel;
  • datblygu dull wedi'i dargedu ac effeithiol o ran cyfathrebu a dylanwadu
  • model diwylliant a gweithredu sy'n ein galluogi i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.

Cyflawni

Darllenwch ein Strategaeth Pum Mlynedd.

Mae ein cynlluniau blynyddol yn nodi'n fanwl y gwaith y byddwn yn ei wneud i gyflawni ein strategaeth yn 2022/23