Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae ein cyhoeddiadau yn cwmpasu ystod eang o waith archwilio sydd wedi'i gwblhau o fewn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys: llywodraeth ganolog, cynghorau lleol, byrddau iechyd, lluoedd heddlu, gwasanaethau tân, a parciau cenedlaethol.

Defnyddiwch y teclyn chwilio i edrych am adroddiad benodol. Neu hidlwch y canlyniadau i'ch helpu i ddod o hyd i gyhoeddiad ar fater, sector, ardal neu flwyddyn benodol.

Pynciau
Sectorau
Adroddiadau
Ardal

Gallwch gael gafael ar adroddiadau hŷn ar archif gwefannau y DU [agorir mewn ffenestr newydd]

Gallwch hefyd gysylltu â ni yn uniongyrchol a byddwn yn hapus i'ch helpu i gael copi electronig.

Cyhoeddiad
Audit wales logo

Amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ar gy...

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol baratoi amcangyfrifiad blynyddol o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru i’w gyflwyno i’r Pwyllor Cyfrifon Cyhoeddus.

Gweld mwy
Audit wales logo

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011

Yn yr adroddiad cyntaf o'r enw Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010, amcangyfrifwyd yr heriau ariannol a wynebai'r gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru a'r gwersi allweddol o'r gwaith a gyflawnwyd gan fy staff a chontractwyr. Diben yr ail adroddiad hwn yw rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r sefyllfa
gyfredol a helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r heriau ariannol. Bwriadaf i'r adroddiad hwn fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i arweinwyr gwleidyddola gweinyddol wrth iddynt ddatblygu ymhellach eu cynlluniau ar gyfer llwyddo gyda llai.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Arbedion Trydan yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol - Cyngor...

Mae Tîm Ynni'r Cyngor wedi cyflwyno nifer o fentrau arbed ynni ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Mae dau adeilad i'r pentref - mae un yn cynnwys y pwll nofio, cyfleusterau ffitrwydd a chanolfan tennis dan do; felodrom yw'r ail adeilad. Yn eu hanfod, mae'r cyfleusterau hyn yn defnyddio Ilawer o drydan oherwydd offer trin aer, pwmpio dŵr poeth ar bwysedd isel a Ilwythi golau.

Gweld mwy
Audit wales logo

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Adroddiad Archwilio B...

Cyflwynwyd llythyr blynyddol interim i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) ym mis Mehefin 2010. Roedd yr adroddiad hwnnw’n ymwneud â’m gwaith archwilio yn ystod chwe mis olaf cyrff rhagflaenol y Bwrdd Iechyd hyd 30 Medi 2009. 

 

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Adeilad Ynni Effeithlon - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda C...

Adeiladodd y Cyngor Sir adeilad ynni effeithlon 1,032m2 yn Ile hen uned feithrinfa. Bellach, mae'n gwasanaethu fel meithrinfa, creche, yn ogystal â chanolfan o ystafelloedd cyfarfod. Gofynnwyd i'r trigolion Ileol a'r darpar ddefnyddwyr terfynol roi eu mewnbwn am y prosiect cyn cychwyn arno.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Arbedion Ynni drwy Foeleri a Rheoli Bwrdd Iechyd Lleol Prify...

Fe wnaeth y Bwrdd Iechyd nodi defnydd aneffeithlon ac annibynadwy ar ynni mewn Ysbyty Cymunedol 4,474m2. Roedd y rhain yn cynnwys systemau gwresogi, boeleri dwr poeth domestig, ffliwiau, falfiau rheoli parthau a system rheoli adeilad.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Arbed Arian drwy Osod - Peiriannau Sychu Dillad Newydd Cyngo...

Roedd peiriannau sychu dillad trydan gan dri Chartref Preswyl y Cyngor, am y rheswm syml eu bod yn rhad i'w prynu pan gafodd y cartrefi eu hadnewyddu ychydig flynyddoedd yn él. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd peiriannau sychu dillad trydan yn rhad i'w rhedeg.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Uwchraddio Graddfeydd Ynni Cyngor Sir Ceredigion

Nododd y Cyngor fod Ysgol Gynradd Plascrug yn cael ei gwresogi gan amrywiol fathau o systemau trydanol, ac o ganlyniad, roedd gan gampws gwreiddiol yr ysgol raddfa Tystysgrif Arddangos Ynni (DEC) 'E'.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Cymunedau Di-garbon - Cyngor Sir Caerfyrddin

Lansiwyd y prosiect ‘Cymunedau Di-garbon’ gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Menter Cwm Gwendraeth, a chyflwynodd fanteision cynaliadwyedd ac ynni glân i gymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin.

Gweld mwy
Audit wales logo

Cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd ar gyfe...

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu rotâu sy’n cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd (y Gyfarwyddeb) ond mae angen iddo atgyfnerthu trefniadau presennol er mwyn cynnal lefelau cydymffurfio a gofal cleifion.

Gweld mwy