Mae ein porth budd-daliadau gweithwyr yn rhoi mynediad i chi at ostyngiadau mewn cannoedd o fanwerthwyr ar y stryd fawr, gan gynnwys bwydydd, teithio, bwyta allan, sinemâu ac atyniadau. Mae hefyd yn cynnwys Rhoi Trwy'r Gyflogres gyda’r Ymddiriedolaeth Elusennau, gostyngiadau Campfa, ac yswiriant Deintyddol â gostyngiad.

Tanysgrifiadau proffesiynol
Dangosir ein hymrwymiad i'ch statws proffesiynol drwy dalu eich tanysgrifiad proffesiynol blynyddol. Bydd y symiau'n amrywio yn amodol ar lefelau aelodaeth pob corff.
Cynllun Prydles Ceir
Mae modd i’n gweithwyr brydlesu car newydd drwy gynllun aberthu cyflog am bris cystadleuol, sy'n cael ei dalu'n fisol drwy'r didyniadau cyflog sy'n arbed treth i chi.
Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Mae gweithio i ni yn rhoi'r hawl i chi ddod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, ac rydym yn cyfrannu ato drwy dalu tua 26.6-30.3% o'ch cyflog bob blwyddyn.
Gweithio'n Glyfrach
Rydym yn gweithio'n 'Gallach' yn Archwilio Cymru - gyda'n hoffer TG rhagorol, argaeledd o ran meddalwedd ac egwyddorion gwaith clyfrach, mae'r gallu i weithio mewn lleoliadau ac amseroedd gwahanol yn agor ein cyfleoedd i gyflawni ein nodau strategol mewn ffordd fwy amrywiol a chydweithredol. Bydd gennych eich gliniadur eich hun a chaiff eich hyfforddi'n llawn yn y pecynnau rydyn ni'n eu defnyddio gan gynnwys Microsoft Teams. Mae ein Tîm TG profiadol bob amser ar gael i roi help llaw pryd bynnag y bo'i angen.
Ystyried Teuluoedd
Mae gennym ystod eang o bolisïau hael sy'n ystyried teuluoedd; Rydym yn llwyr gefnogi'r rhai sy'n ceisio dod yn rhieni a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu gydag amrywiaeth o opsiynau hyblygrwydd. Fe gewch chi 33 diwrnod hael o wyliau blynyddol (ynghyd ag 8 gwyliau banc), a gallwch hefyd gario ymlaen hyd at 9 diwrnod o wyliau y flwyddyn, prynu hyd at 7 diwrnod ychwanegol o wyliau y flwyddyn, a ac ychwanegu diwrnodau gwyliau yn ein 'cynllun gwyliau oes'.
Llwybrau gyrfa a datblygiad proffesiynol
Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn dysgu a datblygu'r holl staff ac yn cydnabod pa mor hanfodol yw hyn i lwyddiant busnes yn y tymor hir. Fel aelod staff llawn amser, byddwch yn cael hyd at 10 diwrnod y flwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a datblygu. Nid yw gyrfaoedd yn llinellol bellach, a'n blaenoriaeth yw i'n staff fod y gorau y gallant fod a chael eu cefnogi i archwilio eu huchelgais gyrfa unigol a rhyddhau eu potensial. Rydym ni wedi sefydlu ein rhaglen fentora a mentora gwrthdroi ein hunain yn Archwilio Cymru lle gall staff ddod yn fentoriaid neu ofyn am gael eu paru â mentor.
Cynllun Beicio i'r Gwaith
Rydym yn cynnig mynediad i'r Cynllun Cycle2Work trwy ein darparwr budd-daliadau, Edenred. Mae hyn yn rhoi hyd at £2500 i chi ei wario ar feic ac offer, gan ei dalu drwy eich cyflog dros y flwyddyn nesaf mewn rhandaliadau misol. Cymerir taliadau misol ar gyfer y beic newydd o'ch cyflog gros, cyn didynnu unrhyw dreth.
Sicrwydd Bywyd
Mae ein Cynllun Sicrwydd Bywyd Grŵp yn darparu cyfandaliad o un waith eich cyflog blynyddol sy'n daladwy i'ch buddiolwr enwebedig os byddwch yn marw tra'ch bod wedi'ch cyflogi gan Archwilio Cymru. Mae'r yswiriant rhad ac am ddim hwn yn arbed arian i chi ac yn osgoi unrhyw angen am danysgrifennu meddygol.