Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Sut mae prosiect Cynllunio Lle Medrwn Môn's wedi llwyddo i gynnwys cymunedau wrth ddatblygu eu cymunedau a chyfarch anghenion lleol trwy greu Cynlluniau Lle.
Medrwn Môn yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Ynys Môn. Mae’n darparu cyngor a chymorth i sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol ar Ynys Môn ac yn eu galluogi i gymryd rhan weithredol lawn wrth ddatblygu eu cymunedau
Dros y degawd diwethaf, mae wedi newid eu harferion gwaith i gynnwyd cymunedau ac unigolion, yn unol ag amcanion ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Mae dull Medrwn Môn yn codi yn ei brosiect Cynllunio Lle. Cynhaliodd ymgynghoriadau cynllunio lle seiliedig ar asedau gyda chymunedau. Y nod oedd deall sut olwg sydd ar gymunedau ar hyn o bryd o ran adeiladau, mannau gwyrdd, sgiliau a gwybodaeth, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus. Nodwyd blaenoriaethau ar gyfer yr ardaloedd lleol hefyd fel bod gan y cymunedau ddealltwriaeth glir a chofnodedig o'r hyn sydd angen ei wneud yn yr ardal. Y bwriad oedd darparu cyfeiriad, ond hefyd sicrhau bod y cymunedau mewn gwell sefyllfa i fynegi eu hanghenion i gyrff a gwasanaethau eraill, a darparu gwell adborth ac ymatebion i newidiadau mewn gwasanaethau a darpariaeth.
Fformat yr ymgynghoriad oedd gofyn beth oedd yn gweithio, a beth nad oedd yn gweithio yn y cymunedau, cyn symud ymlaen i ofyn beth oedd y cyfranogwyr yn meddwl oedd angen ei newid.
Rhannwyd y canlyniadau yn eang â darparwyr gwasanaeth ar gyfer y gymuned, a chyhoeddwyd crynodeb ar wefan Medrwn Môn.
Mae ei astudiaethau achos yn dangos sut y mae wedi ymgysylltu â chymunedau a chynghorau cymuned i roi llais i ddinasyddion ac maent ar gael drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Medrwn Môn.
Yng nghynghrair Bro’r Llynnoedd (enw newydd Cynghrair Llifon yn dilyn newidiadau ffiniau ac enwau wardiau etholiadol), yn enwedig cymuned y Fali, roedd y prif bryderon yn ymwneud â thraffig a rheoli traffig. Gwahoddwyd Cyngor Môn a Heddlu Gogledd Cymru i glywed a deall pryderon y gymuned, a chytunwyd ar flaengynllun. Teimlai'r gymuned wedi'i grymuso am gymryd rhan, ac fel rhan o gyflwyno agweddau ar y cynllun gweithredu megis gwirfoddoli ar gyfer y Prosiect Diogelwch Cyflymder.
Yng Nghynghrair Seiriol yn ne-ddwyrain yr ynys, cododd gyfleoedd cyflogaeth lleol cryf yn yr ymgynghoriad cynllunio lle cychwynnol. Fel sefydliad cymunedol bach, nid oedd yn gallu cynnig cyfleoedd cyflogaeth ar raddfa fawr, ond gall fod yn greadigol ac yn ddyfeisgar. Gweithiodd y gynghrair mewn partneriaeth â Chanolfan Biwmares i sicrhau cyllid ar gyfer Swyddog Datblygu ar gyfer Pontio’r Cenedlaethau a Chydlynydd Asedau Lleol. Gweithiodd hefyd i wella amodau gweithwyr gofal cartref drwy sefydlu cwmni cydweithredol gweithwyr i ddarparu gofal yn eu cymunedau eu hunain gan ddefnyddio fframwaith a grëwyd gan y Gynghrair, Canolfan Biwmares, a Chyngor Môn. Y ddgofen ar gyfer llywodreathu y bertneriaeth yw un o'r cyntaf yng Nghymru, ac fe'i lanswyd gan Vaughan Gething. Gellir gweld stori newyddion am y lansiad trwy ddilyn y ddolen yma.
Mae blaenoriaethau Cynghrair Crigyll i’w gweld drwy’r prosiectau lleol a gafodd cyllid sbarduno. Roedd y prosiectau'n cynnwys hyrwyddo'r ddarpariaeth feithrin leol drwy brynu adnoddau celf. Rhoddwyd cyllid hefyd i brosiectau llesiant yn ystod yr argyfwng costau byw lle crëwyd basgedi ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned, a chafodd y plant lleol gyfle i fwynhau digwyddiad ysbryd y Nadolig mewn cydweithrediad â bwyty lleol. Mae’r grŵp yma hefyd wedi sefydlu cynllun bws lleol er mwyn cymryd lle darpariaeth a dorrwyd gan Drafnidiaeth Cymru. Gan ddefnyddio’r cytundeb rhwng Cynghrair Seiriol a’r Ganolfan, mae Cynghrair Crigyll bellach yn cyflogi gyrrwr bws am 16 awr yr wythnos mewn partneriaeth â’r Irowerth Arms ym Mryngwran a Chynllun Tro Da Bryngwran.